Diogelu Plant

Diogelu Plant

Mae ‘plentyn mewn perygl’ yn blentyn sydd:

  • yn profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu brofi mathau eraill o niwed; ac
  • yn unigolyn sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio).

Mae plentyn yn cael ei gam-drin a'i esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi anaf, neu'n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu, neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan y rhai sy'n hysbys iddynt, neu'n fwy anaml, gan ddieithryn. Plentyn yw unrhyw un nad yw eto wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed. Felly, mae 'plant' yn golygu 'plant a phobl ifanc' drwyddi draw. Nid yw'r ffaith bod plentyn wedi troi yn 16 oed ac efallai ei fod yn byw'n annibynnol yn newid ei statws na'i hawl i wasanaethau neu amddiffyniad o dan Ddeddf Plant, 1989.

Dylai pawb wneud y canlynol:

  • bod yn effro i ddangosyddion posibl o gam-drin neu esgeulustod;
  • bod yn effro i'r risgiau y gallai'r rhai sy'n cam-drin eu peri i blant;
  • rhannu eu pryderon fel y gellir casglu gwybodaeth i gynorthwyo wrth asesu anghenion ac amgylchiadau'r plentyn;
  • gweithio gydag asiantaethau i gyfrannu at gamau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
  • cefnogi'r plentyn a'i deulu.

Y categorïau o gam-drin yw corfforol, rhywiol, emosiynol/seicolegol, ariannol ac esgeulustod fel yr amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), Cydweithio i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn plant sydd mewn perygl.

Mae'r canlynol yn rhestr nad yw'n gynhwysfawr o enghreifftiau ar gyfer pob un o'r categorïau cam-drin ac esgeulustod (mae diffiniadau manylach i'w gweld yn adran 2 Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Cydnabod bod plentyn mewn perygl o niwed - Awgrymiadau ar gyfer Arwyddion Ymarfer a Dangosyddion)

Cam-drin corfforol

Taro, slapio, gor-ddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth ormodol neu sancsiynau amhriodol

Cam-drin Emosiynol/seicolegol

Bygythiadau o niwed neu gefnu, rheoli gorfodol, cywilyddio, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu neu dynnu'n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol, yn dyst, i gam-drin eraill

Cam-drin rhywiol

 Gorfodi neu ddenu plentyn neu unigolyn ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio, gan gynnwys: cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol; gwiethgareddau digyswllt, megis cynnwys plant yn y broses o greu neu edrych ar ddeunyddiau pornograffig, gwylio gweithgareddau rhywiol neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol

Cam-drin ariannol

Bydd y categori hwn yn llai cyffredin i blentyn ond gallai'r dangosyddion fod yn un o'r canlynol:

  • Methu â diwallu eu hanghenion am ofal a chymorth a ddarperir trwy daliadau uniongyrchol
  • Cwynion bod eiddo personol ar goll

Esgeulustod

Methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol neu seicolegol sylfaenol sy'n debygol o arwain at amhariad ar iechyd a datblygiad

Am wybodaeth, cyngor neu gymorth:

Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn neu unigolyn ifanc, rhaid i chi roi gwybod amdanynt ar unwaith. 

Ymholiadau Adran 47

Ystyriaethau Allweddol

Mae Ymholiadau Adran 47 yn dechrau wedi i drafodaeth / cyfarfod strategaeth benderfynu bod y dystiolaeth yn dangos bod ymholiadau o’r fath yn angenrheidiol.

Tasg

Diben Ymholiadau Adran 47 yw sefydlu a yw plentyn yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol a bod angen ymyrraeth i ddiogelu a hyrwyddo ei les. Bwriad ymholiadau A 47 yw: Casglu gwybodaeth. Pennu budd pennaf y plentyn a sut i’w ddiogelu rhag niwed sylweddol gwirioneddol neu debygol. Llywio unrhyw gynllun gofal a chymorth dilynol. Ystyried anghenion posibl unrhyw frodyr / chwiorydd, plant neu oedolion sydd mewn perygl yn aelwyd y plentyn dan sylw, neu mewn cysylltiad â chamdriniwr honedig. Llywio penderfyniadau a wnaed gan yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol am achosion cyfreithiol, p’un a ydynt yn droseddol, yn sifil neu’r ddau

Niwed Sylweddol

Diffinnir niwed fel: Mae camdriniaeth yn cynnwys cam-drin rhywiol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin seicolegol. Amharu ar iechyd corfforol neu iechyd meddwl. Datblygiad deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol

Ymateb i adroddiad sy’n codi pryderon

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymateb i adroddiad am blentyn sydd mewn perygl o niwed, cam-drin neu esgeulustod. Rhaid i’r tîm gwasanaethau cymdeithasol perthnasol benderfynu a chofnodi’r camau nesaf mewn un diwrnod gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen cymryd camau brys. Os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i amau bod plentyn mewn perygl o niwed, dylent alw trafodaeth / cyfarfod strategaeth i bennu p’un a ddylid dechrau ymholiadau Adran 47. Dylid cynnal y drafodaeth / cyfarfod o fewn un diwrnod gwaith. Mewn rhai achosion, efallai mai un drafodaeth / cyfarfod strategaeth yw’r cyfan sydd ei angen. Fodd bynnag, mae teuluoedd a’u sefyllfaoedd yn gymhleth; felly, gall trafodaethau / cyfarfodydd fod yn ddefnyddiol. Os caiff pryderon eu cadarnhau a bernir bod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed sylweddol, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol alw cynhadledd amddiffyn plant o fewn 15 diwrnod gwaith.

Rôl y Gweithiwr Cymdeithasol

Gwasanaethau cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb arweiniol am yr ymholiadau. Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol sy’n arwain yr ymholiadau fod yn gymwys, ac wedi cwblhau’r hyfforddiant perthnasol. Ymateb i adroddiad sy’n codi pryderon Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymateb i adroddiad am blentyn sydd mewn perygl o niwed, cam-drin neu esgeulustod. Rhaid i’r tîm gwasanaethau cymdeithasol perthnasol benderfynu a chofnodi’r camau nesaf mewn un diwrnod gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen cymryd camau brys. Os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i amau bod plentyn mewn perygl o niwed, dylent alw trafodaeth / cyfarfod strategaeth i bennu p’un a ddylid dechrau ymholiadau Adran 47. Dylid cynnal y drafodaeth / cyfarfod o fewn un diwrnod gwaith. Mewn rhai achosion, efallai mai un drafodaeth / cyfarfod strategaeth yw’r cyfan sydd ei angen. Fodd bynnag, mae teuluoedd a’u sefyllfaoedd yn gymhleth; felly, gall trafodaethau / cyfarfodydd fod yn ddefnyddiol. Os caiff pryderon eu cadarnhau a bernir bod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed sylweddol, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol alw cynhadledd amddiffyn plant o fewn 15 diwrnod gwaith. Mae dyletswydd gan ymarferwyr eraill, fel yr heddlu, gweithwyr iechyd, addysg a phartneriaid perthnasol eraill i gydweithredu a helpu gwasanaethau cymdeithasol i gynnal eu hymholiadau. Y cylch gwaith cyffredinol ar gyfer y gweithiwr cymdeithasol yw canolbwyntio ar les a diogelwch y plentyn ac adnabod perygl gwirioneddol a phosibl o niwed sylweddol.

Casglu gwybodaeth gan rieni

Mae ymholiadau Adran 47 yn gofyn i ymarferwyr sefydlu p’un a yw’r plentyn / plant mewn perygl o gael niwed sylweddol oherwydd gallu rhianta ei riant / rieni neu ofalwr / ofalwyr, a pham.

Casglu gwybodaeth gan blant

Mae llais y plentyn yn ganolog i ddeall y camdrin, yr esgeulustod neu’r niwed y mae’r plentyn wedi’i brofi, neu yn ei brofi. Felly, mae’n bwysig rhoi ystyriaeth briodol i’w brofiadau bywyd, dymuniadau a theimladau.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

Cysylltwch â ni

Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444

Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0345 601 5522

Heddlu

Mewn argyfwng galwch 999

Ddim yn argyfwng: 101 

Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd)

Cydweithio i ddiogelu plant (yn agor mewn tab newydd)

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2270, adolygwyd 30/10/2024