Diogelwch a Safonau Bwyd
Gwaith Addysgol a Hyrwyddo Diogelwch Bwyd
Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau gyda'r nod o hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o hylendid bwyd a safonau yn Sir Benfro:
- Fe wnaeth y Tîm Bwyd, gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, osod arddangosfa ryngweithiol a chynnal cwis yn nigwyddiad y Criw Craff, a gynhaliwyd ar gae sioe Llwyn Helyg yn ystod mis Hydref. Bydd dros 1200 o blant ysgolion cynradd yn mynychu'r digwyddiad fel rheol. Mae'r neges a gyflwynir yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd yn y cartref ac ar atal gwenwyn bwyd.
- Bydd y Tîm Bwyd hefyd yn cymryd rhan yn yr Wythnos Ddiogelwch Bwyd sy'n cael ei chynnal ym mis Mehefin.
- Yn fwy cyffredinol, mae'r Tîm Bwyd yn darparu gwybodaeth trwy'r adran o'n gwefan sy'n darparu Gwybodaeth Bwyd a Diogelwch.
Rydym hefyd yn cynllunio swp-lythyrau i sectorau penodol o'r gymuned fusnes.
ID: 1605, adolygwyd 12/10/2022