Diogelwch a Safonau Bwyd

Hyfforddiant Hylendid Bwyd

Gofynion Hyfforddiant Hylendid Bwyd

Mae'r rheoliad (CE) Rhif 852/2004  ar gyfer Hylendid Bwydydd yn mynnu bod pobl sy'n trin bwyd sy'n gweithio mewn busnes bwyd o dan oruchwyliaeth ac wedi eu cyfarwyddo ac/neu eu hyfforddi ar gyfer materion hylendid bwyd sy'n berthnasol i'w gwaith.  Mae'n mynnu hefyd bod y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn derbyn hyfforddiant digonol ar gyfer gweithredu egwyddorion HACCP*.

*(Yr Egwyddorion HACCP yw'r saith egwyddor y mae'r ddeddfwriaeth uchod yn eu mynnu sy'n angenrheidiol  ar gyfer rheoli bwyd yn effeithiol a diogel).  

Mae lefel yr hyfforddiant sydd ei angen ar weithiwr arbennig yn dibynnu ar ei ddyletswyddau.  Er enghraifft, mae ar bobl sy'n ymwneud â pharatoi bwydydd agored risg uchel (e.e. pen-cogyddion, cogyddion, cynorthwywyr arlwyo, pobl sy'n gwneud brechdanau, ac ati) angen hyfforddiant ar lefel uwch na'r rhai sy'n gweini ar gwsmeriaid neu'n golchi llestri. 

Mae amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi hylendid bwyd ar gael yn dibynnu ar anghenion y rhai sy'n trin y bwyd.  Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau y mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn eu cynnig:-  

Dyfarniadau Lefel 1  Diogelwch Bwyd

Dyma'r sail ar gyfer symud ymlaen trwy lefelau 2,3 a 4 gyda chymwysterau Diogelwch Bwyd Lefel 1 penodol i sector:  

  • Dyfarniad Lefel 1 CIEH Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Bwyd mewn Arlwyo
  • Dyfarniad Lefel 1 CIEH Cynefino â Diogelwch Bwyd mewn Gweithgynhyrchu
  • Dyfarniad Lefel 1 CIEH Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Bwyd ar gyfer Adwerthu

Dyfarniad Lefel 2  Diogelwch Bwyd

Cymhwyster newydd wedi ei ddiwygio'n llwyr yn lle'r Dystysgrif Sylfaen CIEH Hylendid Bwyd

 

Dyfarniad Lefel 2  Bwyd Iachach a Dietau Arbennig

Mae'n rhoi modd i arlwywyr ddeall egwyddorion sylfaenol maetheg

 

Dyfarniadau Lefel 3 Diogelwch Bwyd

Set o gymwysterau newydd wedi'u diwygio'n llwyr yn lle'r Dystysgrif Ganolradd CIEH Diogelwch Bwyd: 

  • Dyfarniad Lefel 3 CIEH Goruchwylio Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
  • Dyfarniad Lefel 3 CIEH Goruchwylio Diogelwch Bwyd ar gyfer Gweithgynhyrchu
  • Dyfarniad Lefel 3 CIEH Goruchwylio Diogelwch Bwyd ar gyfer Adwerthu
  • Tystysgrif Ganolradd Diogelwch Bwyd (Cwrs Gloywi)

Nod cyffredinol y rhaglen hon yw atgoffa'r ymgeiswyr sut mae goruchwylio diogelwch bwyd er mwyn rheoli haint a diogelu iechyd cwsmeriaid.

 

Dyfarniad Lefel 3 CIEH Gweithredu Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd

Cymorth i berchnogion a rheolwyr busnesau arlwyo a lletygarwch bach a chanolig eu maint gyda sefydlu system reoli diogelwch bwyd ddogfenedig ar sail egwyddorion HACCP. 

 

Dyfarniad Lefel 3 HACCP Gweithgynhyrchu Bwyd

Ar gyfer perchnogion a rheolwyr pob busnes gweithgynhyrchu bwyd 

 

Tystysgrif Uwch CIEH Diogelwch Bwyd

Ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a hyfforddwyr.
Sylwch: Mae'r cwrs hwn wedi ei ddisodli gan y Dyfarniadau Lefel 4 Diogelwch Bwyd (isod).

 

Dyfarniadau Lefel 4 CIEH Diogelwch Bwyd

O berchnogion busnesau bwyd i hyfforddwyr, o reolwyr cynhyrchu i archwilwyr hylendid, mae'r cymwysterau penodol i sector hyn yn cwrdd ag anghenion diwydiant am gymhwyster ymarferol uwch gydag achrediad allanol.

Dyma gyrff eraill sydd wedi eu cymeradwyo i gynnal cyrsiau hyfforddi hylendid bwyd:

  • Y Gymdeithas Frenhinol Iechyd a Hylendid Cyhoeddus (CFIHC)  
  • Y Gymdeithas Hylendid a Thechnoleg Bwyd (CHTB)

 

ID: 517, adolygwyd 12/10/2022