Diogelwch a Safonau Bwyd

Diogelwch a Safonau Bwyd

Mae mwy na 2000 o fusnesau bwyd yn Sir Benfro, yn cynnwys cwmnïau sy'n gwneud bwyd, cyfanwerthwyr, manwerthwyr ac arlwywyr.  Mae tri chwarter y busnesau hyn wedi'u dosbarthu'n fwytai neu arlwywyr eraill.  

Mae'r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn gyfrifol am:

  • Gynnal trefn o archwilio busnesau bwyd, yn cynnwys samplo
  • Ymchwilio i gwynion am fwyd a labelu bwyd, ac am safonau glanweithdra ar safleoedd bwyd
  • Cofrestru a chymeradwyo busnesau bwyd
  • Ymchwilio i achosion a digwyddiadau ysbeidiol o wenwyn bwyd a chlefydau trosglwyddadwy  
  • Darparu gwybodaeth a chyngor i fusnesau  

Mae ein cyhoeddiad blynyddol Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth yn amlinellu'r gwaith hwn.

Os bydd angen inni gymryd camau gorfodi byddwn yn dilyn ein Food Polisi Gorfodi Diogelwch a Safonau Bwyd.

Cysylltwch â ni:

Y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd

Trwy'r post:

Isadran Diogelu'r Cyhoedd, 
Cyngor Sir Penfro, 
Neuadd y Sir, 
Hwlffordd, 
Sir Benfro. 
SA61 1TP

Gydag e-bost: foodsafety@pembrokeshire.gov.uk

Dros y ffôn: 01437 775179  

ID: 1544, adolygwyd 26/04/2023