Diogelwch ar y Ffyrdd
Tudalen gartref Diogelwch ar y Ffyrdd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i wneud Sir Benfro yn lle mwy diogel i gerdded, beicio, marchogaeth a gyrru. Felly p’un a ydych yn gerddwr, yn feiciwr, yn feiciwr modur neu’n yrrwr rydym yma i helpu. Rydym yn parhau i weithio mewn ysgolion, colegau ac yn y gymuned leol, gydag ystod amrywiol o asiantaethau i addysgu a gwella sgiliau holl ddefnyddwyr y ffyrdd.
Beth am ddarganfod y gwasanaethau diogelwch ffyrdd lleol, hyfforddiant, addysg a rhaglenni ymgyrchu a ddarperir gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a phartneriaid fel Dragon Rider, Pass Plus Cymru, Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol, Kerbcraft a mwy?
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn defnyddiwch y dolenni safle neu cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01437 775144, road.safety@pembrokeshire.gov.uk