Diogelwch ar y Ffyrdd
Cwrs i Yrwyr Hyn
Mae'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn falch o gyflwyno'r “Cwrs i Yrwyr Hŷn” ar gyfer pobl sy'n 65 oed neu'n hŷn. Rydyn ni am sicrhau bod rhyddid gennych chi i deithio, a'ch bod yn annibynnol ac yn hyderus y tu ôl i'r llyw.
Beth am fanteisio ar y sesiwn undydd anffurfiol a hamddenol hon, ac elwa ar arbenigedd gyrrwr-hyfforddwr profiadol a hyfforddwr gyrru cymeradwy cwbl gymwys?
Nid oes angen i chi ddod â'ch car i gael budd o'r sesiwn hon – rydyn ni'n darparu'r cerbyd.
Mae pobl sydd wedi dilyn y cwrs cyn hyn wedi gwerthfawrogi'r cyfle i fynychu'r sesiynau theori ac ymarferol … ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma beth oedd gan rai o'r bobl hynny i'w ddweud:
'Rwyf wedi ailddysgu llawer o’r pethau y dylwn fod yn eu gwybod ond fy mod wedi'u hanghofio dros y blynyddoedd'
'Fe wnaeth hyn gynyddu fy hyder yn fawr; dylai pawb wneud y cwrs hwn – diolch i chi i gyd'
'Gallaf nawr ymdopi'n hyderus â chylchfan Morrisons'
Beth yw diben y cwrs?
- Eich helpu i yrru'n fwy diogel yn hwy
- Y broses o heneiddio a gyrru'n ddiogel
- Mynd i'r afael â'ch pryderon personol am eich gyrru – nawr ac ar gyfer y dyfodol
- Nodi arferion gyrru gwael. Efallai eich bod wedi mabwysiadu ambell un dros y blynyddoedd!
- Diweddariadau i Reolau'r Ffordd Fawr
Nid diben y cwrs hwn yw gwneud y canlynol:
- Profi eich sgiliau gyrru
- Cynnal asesiad ffurfiol o'ch sgiliau gyrru
Beth yw cost y cwrs?
Diolch i gyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i drigolion Sir Benfro.
Bydd y cyrsiau'n cael eu cyflwyno yng Ngorsaf Dân Hwlffordd yn ystod y bore, a cheir sesiynau gyrru ymarferol yn y prynhawn. Bydd rhestr lawn o gynnwys y cwrs yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost wythnos/pythefnos cyn dyddiad eich cwrs.
Pryd mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal?
Mae gennym Gyrsiau i Yrwyr Hŷn sy'n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 20 Medi 2023
- Dydd Mercher 18 Hydref 2023
- Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023
- Dydd Mercher 24Ionawr 2024
- Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
- Dydd Mercher 20 Mawrth 2024
Mae'r cyrsiau’n dechrau am 10.00am ac yn gorffen erbyn 4.00pm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych am archebu lle, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd canlynol:
e-bost: diogelwch.ar.y.ffyrdd@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 775144 / 07767 173186
Mynegwch eich diddordeb mewn mynychu'r cynllun