Diogelwch ar y Ffyrdd
Diogelwch Plant mewn Ceir
Mae’n hanfodol bod rhieni’n sicrhau bod plant yn cael eu gosodwyd yn ddiogel mewn seddau plant neu wregysau diogelwch ar bob taith.
Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod plant yn ddiogel mewn gwregys wrth deithio mewn car a bod plant dan ddeuddeg oed neu dan 135cm o daldra’n defnyddio’r ataliad plentyn cywir.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn:
Seddau plant mewn ceir: y gyfraith
ROSPA - Seddau Plant mewn Ceir
I weld a oes gennych y sedd plentyn gywir ymwelwch â Good Egg Safety
Rydym yn cynnig gwasanaeth am ddim i weld:
- Bod y sedd yn addas i’r cerbyd
- Bod y sedd wedi’i gosod yn ddiogel yn y cerbyd
- Bod y sedd yn briodol i’ch plentyn
Byddwn yn dangos sut i osod sedd eich plentyn yn eich cerbyd yn ddiogel, ac yn rhoi arweiniad trylwyr i chi ar seddau plant mewn ceir gyda chyngor ar ba sedd sy’n addas i’ch plentyn a’r materion cyfreithiol.
Cofiwch ein ffonio ar 01437 775144 neu e-bostio road.safety@pembrokeshire.gov.uk