Diogelwch ar y Ffyrdd
Hyfforddiant Beicio Plant Lefel 1
Mae Lefel 1 yn asesiad o sgiliau beicio sylfaenol eich plentyn ac yn cael ei gyflwyno ar y maes chwarae (ni fydd dysgwyr yn cael eu dysgu). Bydd yr hyfforddeion ond yn symud ymlaen i Lefel 2 os ydynt yn gallu gwneud y canlynol:
Technegau a sgiliau Lefel 1
- Mynd ar gefn a dod oddi ar y beic
- Cychwyn a stopio
- Aros i fyny heb siglo
- Pedlo
- Llywio a dal i symud ymlaen
- Beicio ag un llaw / arwyddion
- Edrych yn ôl
- Defnyddio gêrs
Trwy gwblhau Lefel 1, gallwch ddangos bod gennych y sgiliau i reidio lle nad oes unrhyw geir a’ch bod yn barod i ddechrau eich hyfforddiant ffordd.
ID: 1586, adolygwyd 22/09/2022