Diogelwch ar y Ffyrdd

Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio

Mae'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn cynnig y rhaglen Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio i holl ysgolion cynradd ledled Sir Benfro.

Gall holl ddisgyblion 10 ac 11 oed gymryd rhan. Mae'n rhan bwysig o'r cwricwlwm a’r prif ddiben yw codi ymwybyddiaeth y plant yn sylweddol o'r peryglon sydd ar yr heol. Mae’n cael ei chynnig yn rhad ac am ddim i bob ysgol ac mae hyd y cwrs yn cynnwys tua chwe awr, ac mae’n cael ei gyflwyno gan un o dri hyfforddwr profiadol. 

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys sut i reoli beic, y gallu i wirio ac asesu'r traffig, sut i gyfathrebu, a gosod eich hun ar yr heol. Bydd hyn yn datblygu eu hymwybyddiaeth o beryglon a'u gwybodaeth o Reolau'r Ffordd Fawr.

Mae hyfforddwyr hefyd yn cynghori ar offer diogelwch a sut i wirio a gwneud gwaith cynnal a chadw syml ar eich beic.

Ceir tair lefel ac mae plant oed cynradd yn cael eu haddysgu ar Lefel 1 a Lefel 2. Gall disgyblion yn yr ysgol uwchradd / y coleg neu oedolion anfon e-bost at y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd i gwblhau Lefel 3.

e-bost: road.safety@pembrokeshire.gov.uk

ID: 10828, adolygwyd 14/09/2023

Pas a Mwy Cymru

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Pass Plus Cymru, sydd wedi'i anelu at yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed sydd wedi pasio'u prawf yn ddiweddar. Nod y cynllun yw helpu gyrwyr ifanc i wella sgiliau gyrru, ennill profiad ychwanegol, ac, o bosib, cael gostyngiad ar eu hyswiriant car.

Mae'r cynllun yn gofyn i yrwyr ifanc fynychu tiwtorial rhyngweithiol tair awr, wedi'i ddilyn gan hyd at naw awr o yrru ‘ar y ffordd’ (wedi'i rannu rhwng dau fynychwr) gyda hyfforddwr gyrru sydd wedi'i gymeradwyo ac sydd wedi ymgofrestru â Pass Plus Cymru.

Mae'r cynllun Pass Plus Cymru yn cynnwys chwe modiwl sydd wedi'u cynllunio'n arbennig sy'n cwmpasu'r canlynol:

  • Gyrru o gwmpas y dref
  • Tu allan i'r dref
  • Ym mhob tywydd
  • Yn ystod y nos
  • Ar ffyrdd deuol
  • Ar briffyrdd

Ymdrinnir hefyd â gyrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, cyflymder, cyffuriau ac yfed a gyrru, agweddau diogel ac ymddygiad.

Oherwydd y caiff y cyfranogwyr eu hyfforddi gan hyfforddwr gyrru proffesiynol, byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr ychwanegol a sgiliau moduro cadarnhaol a fyddai fel arall yn cymryd amser hir i'w hennill.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, cyflwynir Tystysgrif Pass Plus i bob ymgeisydd. Byddwch yn gallu defnyddio'r dystysgrif hon i hawlio'ch gostyngiad yswiriant car. 

Beth yw cost y cwrs?

Cost y cwrs, sydd wedi'i achredu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), yw £20, sy’n ostyngiad sylweddol o'r gost arferol, sef tua £160. Telir gweddill y balans gennym ni gan arian grant oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Sut caiff y cwrs ei gyflwyno?

Cyflwynir y cyrsiau ar-lein dros Microsoft Teams. Anfonir gwybodaeth bellach atoch am sut i gael mynediad at y cwrs, ynghyd â'r ddolen i ymuno ag ef, drwy neges e-bost yn ystod yr wythnos y mae eich cwrs wedi'i drefnu ar ei chyfer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at road.safety@pembrokeshire.gov.uk

Yn dilyn y cwrs ar-lein, bydd hyfforddwr yn cysylltu â chi er mwyn trefnu dyddiad ac amser addas ichi gwblhau elfen ymarferol y cwrs.

Archebwch eich lle ar y cwrs (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 10564, adolygwyd 14/09/2023

Lefelau Beicio 1,2 a 3

Mae Lefel 1 yn asesiad o sgiliau beicio sylfaenol eich plentyn ac fe'i cyflwynir ar yr iard chwarae (ni fydd yr hyfforddeion yn cael eu haddysgu). Bydd hyfforddeion ond yn graddio i Lefel 2 ar yr amod eu bod yn gallu gwneud y canlynol:

Technegau a sgiliau Lefel 1

  • Camu ar y beic, ac oddi arno
  • Dechrau a stopio
  • Aros yn unionsyth heb simsanu
  • Pedlo
  • Llywio a chynnal cynnydd yn y ffordd ymlaen
  • Beicio ag un llaw / rhoi signalau
  • Edrych y tu ôl
  • Defnyddio'r gêr

Drwy gyflawni Lefel 1, rydych wedi dangos bod gennych y sgiliau i reidio beic lle nad oes ceir ac eich bod yn barod i ddechrau ar eich hyfforddiant yn beicio ar yr heol. 

 

O fewn Lefel 2, rydych yn dechrau ymdopi â thraffig go-iawn, ond yn cadw at heolydd tawel.

Drwy gyflawni Lefel 2, gallwch ddangos bod gennych y sgiliau i gwblhau taith fer yn ddiogel ar heolydd tawel a lonydd beicio, efallai i'r ysgol.

Technegau a sgiliau Lefel 2

  • Theori beicio ar yr heol
  • Camu ar y beic, ac oddi arno
  • Stopio
  • Defnyddio'r gêr
  • Beicio ag un llaw / rhoi signalau
  • Edrych y tu ôl
  • Troi i'r dde ac i'r chwith, a goddiweddyd cerbydau sydd wedi parcio ar amrywiaeth o ffyrdd tawel
  • Defnyddio cyfleusterau beicio

 

O fewn Lefel 3, gallwch symud ymlaen at heolydd prysur a nodweddion uwch yr heol.

Mae fel gwersi gyrru neu feic modur ac, ar ôl i chi ei wneud, fe ddylech allu beicio yn y rhan fwyaf o leoedd yn ddiogel, yn sicr ar ôl rhywfaint o ymarfer. Fel arfer, byddwch yn gwneud hyn unwaith y byddwch wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Technegau a sgiliau Lefel 3

  • Theori ar y ffordd fel Lefel 2 gyda theori ychwanegol yn ôl yr angen i gefnogi'r gwaith ffordd mwy datblygedig sy'n cael ei wneud
  • Y beic fel cerbyd
  • Lleoli ac arsylwi
  • Sgiliau Lefel 1 a 2
  • Heolydd mwy prysur
  • Troadau, ffyrdd a chyffyrdd cymhleth
  • Cylchfannau
  • Cyffyrdd a reolir gan signalau
  • Trylifo
  • Defnyddio cyfleusterau beicio
  • Mathau gwahanol o feiciau a'u diben
  • Cadw beic yn addas ar gyfer y ffordd fawr
  • Dillad priodol sy'n addas ar gyfer beicio
  • Atodiadau perthnasol

Sustrans (yn agor mewn tab newydd)

Cycling UK (yn agor mewn tab newydd)

 

 

ID: 10562, adolygwyd 14/09/2023

Cwrs i Yrwyr Hyn

Mae'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn falch o gyflwyno'r “Cwrs i Yrwyr Hŷn” ar gyfer pobl sy'n 65 oed neu'n hŷn. Rydyn ni am sicrhau bod rhyddid gennych chi i deithio, a'ch bod yn annibynnol ac yn hyderus y tu ôl i'r llyw.

Beth am fanteisio ar y sesiwn undydd anffurfiol a hamddenol hon, ac elwa ar arbenigedd gyrrwr-hyfforddwr profiadol a hyfforddwr gyrru cymeradwy cwbl gymwys?

Nid oes angen i chi ddod â'ch car i gael budd o'r sesiwn hon – rydyn ni'n darparu'r cerbyd.

Mae pobl sydd wedi dilyn y cwrs cyn hyn wedi gwerthfawrogi'r cyfle i fynychu'r sesiynau theori ac ymarferol … ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma beth oedd gan rai o'r bobl hynny i'w ddweud:

'Rwyf wedi ailddysgu llawer o’r pethau y dylwn fod yn eu gwybod ond fy mod wedi'u hanghofio dros y blynyddoedd'

'Fe wnaeth hyn gynyddu fy hyder yn fawr; dylai pawb wneud y cwrs hwn – diolch i chi i gyd'

'Gallaf nawr ymdopi'n hyderus â chylchfan Morrisons'

Beth yw diben y cwrs?

  • Eich helpu i yrru'n fwy diogel yn hwy
  • Y broses o heneiddio a gyrru'n ddiogel
  • Mynd i'r afael â'ch pryderon personol am eich gyrru – nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Nodi arferion gyrru gwael. Efallai eich bod wedi mabwysiadu ambell un dros y blynyddoedd!
  • Diweddariadau i Reolau'r Ffordd Fawr

Nid diben y cwrs hwn yw gwneud y canlynol:

  • Profi eich sgiliau gyrru
  • Cynnal asesiad ffurfiol o'ch sgiliau gyrru

Beth yw cost y cwrs?

Diolch i gyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i drigolion Sir Benfro.

Bydd y cyrsiau'n cael eu cyflwyno yng Ngorsaf Dân Hwlffordd yn ystod y bore, a cheir sesiynau gyrru ymarferol yn y prynhawn. Bydd rhestr lawn o gynnwys y cwrs yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost wythnos/pythefnos cyn dyddiad eich cwrs.

Pryd mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal?

Mae gennym Gyrsiau i Yrwyr Hŷn sy'n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023
  • Dydd Mercher 18 Hydref 2023
  • Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023
  • Dydd Mercher 24Ionawr 2024
  • Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
  • Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

Mae'r cyrsiau’n dechrau am 10.00am ac yn gorffen erbyn 4.00pm.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych am archebu lle, cysylltwch â ni trwy un o'r ffyrdd canlynol:

e-bost: diogelwch.ar.y.ffyrdd@sir-benfro.gov.uk

Ffôn: 01437 775144 / 07767 173186

Mynegwch eich diddordeb mewn mynychu'r cynllun

 

ID: 10563, adolygwyd 14/09/2023

Kerb-Craft

Mae yn gynllun cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw dysgu sgiliau cerdded hanfodol i ddisgyblion Blwyddyn 1 a/neu Flwyddyn 2 er mwyn helpu i leihau nifer y damweiniau ymhlith plant sy'n cerdded. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal ar ymyl y ffordd gan aelod o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

Mae 43 ysgol gynradd ar hyd a lled Sir Benfro yn rhan o’r cynllun ar hyn o bryd. Cyhoeddodd un pennaeth ysgol bod y prosiect yn ‘gyfle gwych i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro’ ac mae’r hyfforddiant yn parhau i gael ei gefnogi’n frwd gan rieni, staff ac aelodau’r cymunedau y mae’r sesiynau hyfforddi yn digwydd ynddynt.

Datblygwyd Kerbcraft gan dîm o seicolegwyr ym Mhrifysgol Ystrad Clud a luniodd y rhaglen i ddysgu tri sgìl hanfodol i blant 5-7 oed, sef dewis mannau a llwybrau diogel, croesi’n ddiogel pan fo ceir wedi’u parcio, a chroesi’n ddiogel ar gyffyrdd. Fodd bynnag, atgoffir rhieni y dylai oedolyn gerdded gyda phlant o’r oed hwn bob amser wrth ymyl ffyrdd neu wrth eu croesi.

  1. Dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd – Caiff plant eu helpu i adnabod y peryglon ac i nodi croesfannau gwahanol.
  2. Croesi’n ddiogel pan fo ceir wedi’u parcio – Caiff plant eu haddysgu sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi ger ceir sydd wedi’u parcio, lle nad oes modd eu hosgoi.
  3. Croesi’n ddiogel ar gyffyrdd –Caiff plant eu cyflwyno i broblemau sy’n gysylltiedig â chyffyrdd syml a chymhleth, ac addysgir strategaeth iddynt ar gyfer edrych i bob cyfeiriad.

Caiff pob sgil ei ymarfer mewn sawl lleoliad gwahanol, dros gyfnod o naw wythnos. Bydd hyfforddwyr diogelwch ar y ffyrdd yn gweithio gyda grwpiau bach iawn o blant ac yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau arsylwi a phrosesau gwneud penderfyniadau wrth ymyl y ffordd. Mae'r plant yn gwisgo siacedi llachar ac yn gafael yn nwylo’r hyfforddwyr drwy'r amser.

Os ydych yn rhiant, athro/athrawes neu lywodraethwr ysgol ac eisiau rhagor o wybodaeth am ddechrau Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd drwy anfon e-bost at: road.safety@pembrokeshire.gov.uk

Os ydych yn addysgu yn y cartref ac yn dymuno cyflwyno Kerbcraft gartref, rydym wedi ffurfio pecyn ‘Kerbcraft Gartref’ a fydd yn rhoi'r wybodaeth i chi ynghylch sut i gyflwyno hyfforddiant Kerbcraft i'ch plant.

Rheolau’r Ffordd Fawr – Rheolau ar gyfer Cerddwyr (yn agor mewn tab newydd) 

 

ID: 10560, adolygwyd 14/09/2023

Marchog Draig

Mae Dragon Rider Cymru yn gwrs hyfforddi beiciau modur a gefnogir gan Gynllun Beiciwr Gwell yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a Thunder Road Motorcycles yn Ne Cymru.

Mae’r Timau Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r cwrs sgiliau uwch hwn i reidwyr sy'n cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr beiciau modur profiadol a chymwys sydd wedi’u hachredu gan Gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau o hyfforddwyr beiciau modur sydd wedi llwyddo yn eu prawf gyrru. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cefnogi'r fenter.

Cynhelir y cyrsiau ar nos Lun ac fe'u cyflwynir trwy Microsoft Teams. Bydd yr elfen ymarferol yn cael ei threfnu unwaith y byddwch wedi mynychu’r sesiwn gyda’r nos a bydd yn cael ei chynnal ar y ffordd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd ledled y sir hon a’r siroedd cyfagos i ddiwallu anghenion hyfforddi reidwyr unigol, yn seiliedig ar Roadcraft, llawlyfr gyrru’r heddlu.

Anogir reidwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs Beicio Diogel i ddod â chopïau o'u ffurflenni asesu ar gyfer y sesiwn ymarferol. Y gymhareb hyfforddi fydd un hyfforddwr i uchafswm o ddau feiciwr ar gyfer yr elfen ar y ffordd. Bydd hyfforddiant yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol y reidiwr.

Ar ddiwedd y ddwy sesiwn bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael tystysgrif cymhwysedd a gydnabyddir gan amrywiaeth eang o gwmnïau yswiriant ac a allai olygu gostyngiad yn eich premiwm yswiriant.

Beth yw cost y cwrs?

Diolch i gyllid grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i drigolion Sir Benfro.

Argaeledd y cwrs

Mynegwch eich diddordeb i fynychu'r cynllun

Anfonir gwybodaeth bellach atoch am sut i gael mynediad at y cwrs, ynghyd â'r ddolen i ymuno ag ef, drwy neges e-bost yn ystod yr wythnos y mae eich cwrs wedi'i drefnu ar ei chyfer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at diogelwcharyffyrdd@sir-benfro.gov.uk

Yn dilyn y cwrs ar-lein, bydd hyfforddwr yn cysylltu â chi er mwyn trefnu dyddiad ac amser addas ichi gwblhau elfen ymarferol y cwrs.

ID: 10559, adolygwyd 14/09/2023

Diogelwch Sedd Car Plant

Mae'n hanfodol fod rhieni'n sicrhau bod plant yn cael eu gosod yn ddiogel mewn seddi plant neu wregysau diogelwch ar bob taith.

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod plant yn gwisgo eu gwregys yn ddiogel wrth deithio mewn car a bod plentyn o dan ddeuddeg oed neu o dan 135cm o daldra yn defnyddio’r sedd ddiogel gywir.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Seddi ceir plant: y gyfraith (yn agor mewn tab newydd)

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau  - Seddi Ceir Plant (yn agor mewn tab newydd)

I gael golwg ar ganllaw i sicrhau bod y sedd gywir gennych chi, ewch i Good Egg Safety (yn agor mewn tab newydd)

Ffoniwch ni ar 01437 775144 neu e-bostiwch road.safety@sir-benfro.gov.uk am ragor o gyngor neu wybodaeth am hyn.

i-Size (yn agor mewn tab newydd) yw’r gyfres newydd o reoliadau ar gyfer seddi ceir plant, a ddaeth i rym yn haf 2013. Dylai rhieni ymgyfarwyddo â'r gofynion er mwyn cadw eu plant yn ddiogel.

Mae i-Size yn gwneud y weithred o deithio mewn car gyda'ch plentyn yn fwy diogel gan eu bod yn nodi'r canlynol:

  • dylid cadw eich plentyn yn wynebu'r cefn nes ei fod yn 15 mis oed
  • rhoddir ystyriaeth i oedran, pwysau a thaldra eich plentyn
  • dylid defnyddio seddi Isofix sy'n haws i'w gosod
  • caiff eich plentyn ei amddiffyn rhag gwrthdrawiad ochr
  • rhoddir mwy o amddiffyniad i ben, gwddf ac organau hanfodol eich plentyn

Fideo yn amlygu'r gwahaniaeth rhwng Seddi ceir sy'n wynebu'r cefn a seddi ceir sy'n wynebu'r blaen (yn agor mewn tab newydd). Er mwyn diogelu eich plentyn, parhewch i osod ei sedd yn wynebu'r cefn am gyn hired â phosib. 

 

ID: 10558, adolygwyd 14/09/2023

Rheolau Seddi Atgyfnerthu

Bydd y newidiadau i'r safonau diogelwch yn golygu y bydd yr holl glustogau hybu sydd newydd eu cynhyrchu yn anghyfreithlon i'w defnyddio gan blant sy'n ysgafnach na 22kg ac yn fyrrach na 125cm.

Fodd bynnag, os yw eich plentyn dros 22kg a 125cm gall barhau i'w defnyddio.

Beth os oes gennych glustog hybu yn barod?

Os ydych eisoes yn berchen ar glustog hybu sy'n nodi ei fod yn cydymffurfio ag isafswm pwysau ECE R44/04 Grŵp 2 – 15kg, bydd yn parhau i fod yn gyfreithlon i'w ddefnyddio gan blentyn sy'n 15kg neu'n drymach.

Nid yw clustog hybu yn cynnig unrhyw amddiffyniad i'r pen, ochr na rhan uchaf y corff; nid dyma'r opsiwn mwyaf diogel i gorff mor ifanc.

A chan fod opsiwn mwy diogel ar gael ar ffurf clustog hybu â chefn uchel sydd â'r nodweddion diogelwch hyn, byddai'n gwneud synnwyr i annog rhieni i ddefnyddio'r rhain.

ID: 10557, adolygwyd 14/09/2023

Beiciwr Lawr

Gan fod beicwyr yn tueddu teithio mewn grwpiau neu barau, yr unigolyn cyntaf ar y safle pan fydd rhywun mewn damwain fydd cyd-feiciwr fel arfer. Mae Beiciwr Lawr! yn anelu at leihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar y ffyrdd ac mae’n cael ei ddarparu gan ddiffoddwyr tân gweithredol / tîm beiciau tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl:

  • Rheoli Lleoliad Damwain
  • Cymorth Cyntaf
  • Y Gwyddor o Gael eich Gweld

Bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r cyfranogwyr o beth i'w wneud os ydynt yn dod ar draws gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd a sut i'w reoli'n ddiogel.

Beth yw cost y cwrs?

Diolch i gyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, mae'r cwrs yn rhad ac am ddim. Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd y cyfranogwyr yn cael pecyn cymorth cyntaf yn rhad ac am ddim.

ID: 10556, adolygwyd 14/09/2023

Teithio Llesol

Daeth y Ddeddf Teithio Llesol i rym yn 2013 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diffiniad o daith teithio llesol yn cynnwys teithio i’r gwaith, teithio i’r ysgol a chyfleusterau addysgol eraill, teithio i’r siopau, teithio i gyfleusterau hamdden a theithio i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae manteision teithio llesol fel a ganlyn –

  • Iechyd a Llesiant – mae gweithgarwch corfforol am 30 munud y dydd yn unig yn dod â manteision iechyd corfforol, meddwl a chymdeithasol enfawr i unigolion.
  • Yr Amgylchedd a’r Gymuned – trwy ddefnyddio dulliau teithio llesol, rydym yn lleihau effeithiau amgylcheddol tagfeydd, yn lleihau allyriadau CO2, ac yn gwella ansawdd aer yn ein hamgylchedd.
  • Yr Economi – mae pobl sy’n teithio i mewn i’r ddinas yn defnyddio teithio llesol yn debygol o dreulio mwy o amser ac arian na’r rhai sy’n gyrru, sydd yn ei dro o fudd i’r economi leol.

Mae’r Cydlynydd Teithio Llesol o fewn y tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar hyn o bryd yn gweithio gydag ysgolion i sefydlu mentrau teithio llesol amrywiol, sy’n cynnwys parcio a cherdded, bws cerdded, dyfais tracio teithio llesol, a cherdded i'r ysgol gyda Ziggy Zebra. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau sgwter, clybiau beicio yn ystod y gwyliau a chlybiau beicio teuluol i annog pobl i fyw bywyd mwy gweithgar.

Os ydych chi'n rhiant, athro, llywodraethwr ysgol, busnes, neu deulu sy'n derbyn addysg yn y cartref ac rydych am wybod mwy am fentrau teithio llesol yn eich ysgol neu weithle, cysylltwch â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd road.safety@pembrokeshire.gov.uk

ID: 10555, adolygwyd 14/09/2023

Tudalen gartref Diogelwch ar y Ffyrdd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i wneud Sir Benfro yn lle mwy diogel i gerdded, beicio, marchogaeth a gyrru. Felly p’un a ydych yn gerddwr, yn feiciwr, yn feiciwr modur neu’n yrrwr rydym yma i helpu. Rydym yn parhau i weithio mewn ysgolion, colegau ac yn y gymuned leol, gydag ystod amrywiol o asiantaethau i addysgu a gwella sgiliau holl ddefnyddwyr y ffyrdd.

Beth am ddarganfod y gwasanaethau diogelwch ffyrdd lleol, hyfforddiant, addysg a rhaglenni ymgyrchu a ddarperir gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a phartneriaid fel Dragon Rider, Pass Plus Cymru, Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol, Kerbcraft a mwy?

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn defnyddiwch y dolenni safle neu cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01437 775144, road.safety@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 217, revised 14/09/2023