Diogelwch ar y Ffyrdd
Hyfforddiant Beicio Plant Lefel 3
Lefel 3 yw symud i ffyrdd prysur a nodweddion ffyrdd uwch.
Mae fel gwersi gyrru car neu feic modur ac, unwaith y byddwch wedi’i wneud, dylech allu beicio’n ddiogel yn y rhan fwyaf o fannau, yn bendant ar ôl ymarfer rhywfaint. Fel arfer, byddwch yn gwneud hyn unwaith y byddwch wedi dechrau ysgol uwchradd.
Technegau a Sgiliau Lefel 3
- Theori ar y ffordd fel lefel 2 gyda theori ychwanegol fel bo angen i gynorthwyo’r gwaith mwy datblygedig sy’n cael ei wneud ar y ffordd
- Y beic fel cerbyd
- Lleoli a sylwi
- Sgiliau lefelau 1 a 2
- Ffyrdd prysurach
- Troadau, ffyrdd a chyffyrdd cymhleth
- Cylchfannau
- Cyffyrdd dan reolaeth goleuadau traffig
- Ymdoddi
- Defnyddio cyfleusterau beicio
- Gwahanol fathau o feiciau a’u diben
- Cadw beic yn addas i’r ffordd fawr
- Dillad ar gyfer beicio
- Ategolion perthnasol
ID: 1588, adolygwyd 22/09/2022