Oherwydd bod yr ysgolion ar gau ni allwn ddysgu’r sgiliau cerdded hanfodol hyn i’ch plentyn / plant, ar hyn o bryd. Rydym wedi ffurfio pecyn “Kerbcraft gartref”, sy’n rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut i gyflwyno Kerbcraft.
Os hoffech ddysgu Kerbcraft i’ch plentyn / plant yn ystod eich troeon dyddiol:
Cynllun cenedlaethol yw Kerbcraft, dan nawdd Llywodraeth Cymru. Ei fwriad yw dysgu sgiliau cerdded hanfodol i ddisgyblion blynyddoedd 1 a 2, i gynorthwyo lleihau damweiniau plant ar draed. Mae’n cael ei gynnal ar fin y ffordd gan aelod o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a gwirfoddolwyr hyfforddedig.
Ar hyn o bryd mae 32 ysgol ar hyd a lled Sir Benfro’n ymwneud â’r cynllun. Cyhoeddodd un pennaeth ysgol bod y prosiect yn “gyfle gwych i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro” ac mae’r hyfforddiant yn dal i gael cefnogaeth frwd rhieni, staff ac aelodau’r cymunedau lle mae’r sesiynau hyfforddi’n digwydd.
Datblygwyd Kerbcraft gan dîm o Seicolegwyr ym Mhrifysgol Ystrad Clud a luniodd y rhaglen i ddysgu tair o sgiliau hanfodol i blant 5-7 oed: dewis mannau a llwybrau diogel; croesi’n ddiogel pan fo ceir wedi’u parcio; a chroesi’n ddiogel ar gyffyrdd. Fodd bynnag, caiff rhieni eu hatgoffa y dylai oedolyn fod gyda phlant o’r oed hwn bob amser wrth gerdded ger neu groesi ffyrdd.
1) Dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd - Caiff plant eu helpu i adnabod y peryglon a nodi mannau croesi gwahanol.
2) Croesi’n ddiogel pan fo ceir wedi’u parcio - Caiff plant eu dysgu sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi pan fo ceir wedi’u parcio, lle nad oes modd eu hosgoi.
3) Croesi’n ddiogel ar gyffyrdd - Caiff plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth, a dysgu strategaeth ar gyfer edrych i bob cyfeiriad.
Caiff pob un o’r sgiliau eu hymarfer mewn amryw wahanol fannau dros gyfnod o 4 wythnos a dylai’r plant gwblhau cyfanswm o 12 sesiwn.
Bydd gwirfoddolwyr o rieni a/neu gynorthwywyr ystafell ddosbarth yn gweithredu fel hyfforddwyr ar gyfer y cynllun, gan weithio gyda grwpiau bach iawn o blant a helpu iddynt ddatblygu eu sgiliau sylwi a phrosesau penderfynu. I wirfoddoli, e-bostiwch: road.safety@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych yn rhiant, athro, athrawes neu lywodraethwr ysgol ac eisiau cael gwybod am ddechrau Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd road.safety@pembrokeshire.gov.uk
Erthyglau Cysylltiedig
Rheolau’r Ffordd Fawr - Rheolau ar gyfer Cerddwyr