Diogelwch ar y Ffyrdd
Rheoliadau i-Size seddau plant mewn ceir
i-Size yw’r gyfres newydd o reoliadau ar gyfer seddau plant mewn ceir a ddaeth i rym yn haf 2013. Dylai rhieni ymgyfarwyddo’u hunain â’r gofynion i gadw’u plant yn ddiogel.
Mae i-Size yn gwneud teithio mewn car gyda’ch plentyn yn fwy diogel oherwydd:
- y dylai eich plant fod yn wynebu’r cefn nes byddant yn 15 mis oed
- y caiff oed, pwysau a thaldra eich plentyn ei ddefnyddio
- y dylid defnyddio seddau Isofix sy’n rhwyddach eu gosod
- bod eich plant yn cael eu gwarchod rhag trawiad o’r ochr
- bod mwy o amddiffyniad i bennau, gyddfau ac organau hanfodol eich plant
Mae fideo’n dangos seddau ceir yn wynebu’r cefn gyferbyn â seddau ceir. Er diogelwch eich plant, cadwch nhw’n wynebu’r cefn gyhyd ag y bo modd.
ID: 1687, adolygwyd 22/09/2022