Diogelwch ar y Ffyrdd
Teithio Llesol
Daeth y Ddeddf Teithio Llesol i rym yn 2013 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diffiniad o daith teithio llesol yn cynnwys teithio i’r gwaith, teithio i’r ysgol a chyfleusterau addysgol eraill, teithio i’r siopau, teithio i gyfleusterau hamdden a theithio i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae manteision teithio llesol fel a ganlyn –
- Iechyd a Llesiant – mae gweithgarwch corfforol am 30 munud y dydd yn unig yn dod â manteision iechyd corfforol, meddwl a chymdeithasol enfawr i unigolion.
- Yr Amgylchedd a’r Gymuned – trwy ddefnyddio dulliau teithio llesol, rydym yn lleihau effeithiau amgylcheddol tagfeydd, yn lleihau allyriadau CO2, ac yn gwella ansawdd aer yn ein hamgylchedd.
- Yr Economi – mae pobl sy’n teithio i mewn i’r ddinas yn defnyddio teithio llesol yn debygol o dreulio mwy o amser ac arian na’r rhai sy’n gyrru, sydd yn ei dro o fudd i’r economi leol.
Mae’r Cydlynydd Teithio Llesol o fewn y tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar hyn o bryd yn gweithio gydag ysgolion i sefydlu mentrau teithio llesol amrywiol, sy’n cynnwys parcio a cherdded, bws cerdded, dyfais tracio teithio llesol, a cherdded i'r ysgol gyda Ziggy Zebra. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau sgwter, clybiau beicio yn ystod y gwyliau a chlybiau beicio teuluol i annog pobl i fyw bywyd mwy gweithgar.
Os ydych chi'n rhiant, athro, llywodraethwr ysgol, busnes, neu deulu sy'n derbyn addysg yn y cartref ac rydych am wybod mwy am fentrau teithio llesol yn eich ysgol neu weithle, cysylltwch â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd road.safety@pembrokeshire.gov.uk