Dweud eich dweud
Adeiladu Diwylliant Gwell - Dweud Eich Dweud!
Ynghylch yr ymgynghoriad
Mae partneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng cynghorau Powys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gwahodd y cyhoedd i helpu i lunio gweledigaeth ddiwylliannol gyffredin ar gyfer y rhanbarth.
Dan arweiniad Cyngor Sir Powys, mae Partneriaeth Diwylliant Strategol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dod â'r pedwar awdurdod ynghyd am y tro cyntaf i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r prosiect wedi'i seilio ar Flaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant wrth ddod â chymunedau ynghyd, dathlu Cymru fel cenedl ddiwylliant a chreu cyfleoedd newydd.
Wrth wraidd y prosiect mae ymrwymiad i wrando. Mae trigolion, cymunedau, pobl greadigol a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu eu barn er mwyn sicrhau bod y weledigaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl leol ar draws un o ranbarthau mwyaf amrywiol a gwledig Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llawn creadigrwydd, treftadaeth ac ysbryd cymunedol, ac mae'r bartneriaeth gyffrous hon yn gyfle gwych i ddathlu ac ategu hyn gyda'n gilydd. Trwy weithio ar draws y pedair sir, gallwn fod yn fwy uchelgeisiol, yn fwy arloesol a chreu gweledigaeth ddiwylliannol sy'n arddangos popeth sydd gan ein rhanbarth i'w gynnig.
“Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl - trigolion, grwpiau cymunedol, artistiaid a sefydliadau - fel y gallwn, gyda'n gilydd, greu dyfodol diwylliannol sy'n gynhwysol, uchelgeisiol ac sydd wedi'i wreiddio yn yr hyn sy'n bwysicaf i'n cymunedau. Felly, dewch i un o'n sesiynau yn Sir Benfro neu rhannwch eich barn drwy'r holiadur ar-lein.”
Mae Gweledigaeth Ddiwylliannol ranbarthol a phedwar Cynllun Blaenoriaeth Ddiwylliannol lleol i fod i gael eu cwblhau erbyn mis Hydref 2026, gan gefnogi cydweithio a buddsoddi hirdymor mewn diwylliant ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.
Dweud eich dweud
Mae trigolion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar yr hyn y mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw fel rhan o gyfres o sesiynau gweithdy galw heibio ac ar-lein ym mis Mehefin eleni.
Wedi'u cyflwyno drwy brosiect Cwlwm (Golwg Creadigol), bydd y sesiynau'n dod â phobl ynghyd i archwilio gwahanol ddehongliadau o ddiwylliant, o'r celfyddydau a'r theatr i dreftadaeth leol, llyfrgelloedd a digwyddiadau cymunedol, er mwyn helpu i lunio gweledigaeth newydd ar gyfer diwylliant ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. Mae pob sesiwn ar agor i bawb, gyda dewisiadau iaith Cymraeg a Saesneg ar gael, ar yr amseroedd a lleoliadau canlynol:
Dyddiad |
Sesiwn |
Lleoliad |
| 11 Mehefin | Sesiwn Galw Heibio (11.00-13.00 / 14.00-16.00) | Neuadd y Dref Abergwaun |
| Gweithdy gyda'r nos (19.00-20.30) | Neuadd y Dref Abergwaun | |
| 22 Mehefin | Sesiwn Galw Heibio (11.00-17.00) | Llyfrgell Doc Penfro |
| Gweithdy gyda'r nos (19.00-20.30) | Llyfrgell Doc Penfro |
Mae pob sesiwn ar agor i bawb, gyda dewisiadau iaith Cymraeg a Saesneg ar gael.
Fel arall, gallwch rannu eich barn drwy’r holiadur ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw: Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026