Dweud eich dweud

Adolygiad Polisi Deddf Gamblo

Mae'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu Hapchwarae yn nodi sut y bydd y cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf Gamblo 2005 gyda'r bwriad o hyrwyddo'r amcanion trwyddedu sef:

  • Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell trosedd ac anhrefn, rhag bod yn gysylltiedig â throsedd neu anhrefn, neu rhag cael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd.
  • Sicrhau bod hapchwarae’n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored.
  • Gwarchod plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu camfanteisio gan hapchwarae.

Mae'r awdurdod yn cyhoeddi amrywiaeth o ganiatadau a thrwyddedau ar gyfer safleoedd hapchwarae ar y tir gan gynnwys:

  • Safleoedd casino;
  • Safleoedd bingo;
  • Safleoedd betio, gan gynnwys traciau;
  • Canolfannau hapchwarae i oedolion; a
  • Chanolfannau adloniant i deuluoedd

Dylid nodi nad yw awdurdodau trwyddedu lleol yn ymwneud â thrwyddedu gamblo o bell / ar-lein o gwbl, mae hyn yn gyfrifoldeb y Comisiwn Hapchwarae.

 

Pam rydyn ni’n ymgynghori?

Mabwysiadwyd y polisi presennol gan yr awdurdod ym mis Ebrill 2023 a rhaid ei adolygu o leiaf bob tair blynedd.

Mae’r Ddeddf Gamblo yn dal i gael ei hadolygu ar hyn o bryd, prin yw unrhyw ddiweddariadau a wnaed yn ystod y tair blynedd diwethaf sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ond maent wedi'u hymgorffori yn yr adolygiad. Yn ogystal, mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi diweddaru eu canllawiau i awdurdodau lleol ers cyhoeddi'r polisi cyfredol felly mae unrhyw ddolenni neu gyfeiriadau at hyn wedi'u diweddaru.

Felly, bach yw’r newidiadau i'r polisi ac maent yn cynnwys:

  • Newid fformat i gynnwys hyperddolenni i ddogfennau perthnasol cyfredol gan gynnwys canllawiau wedi'u diweddaru gan y Comisiwn Hapchwarae
  • Ystadegau wedi'u diweddaru ar nifer y safleoedd trwyddedig yn Sir Benfro
  • Gofyniad statudol wedi'i ddiweddaru ynghylch prynu profion
  • Diweddariadau i derfynau statudol peiriannau hapchwarae mewn safleoedd casino

 

Mae'r polisi wedi'i ddiweddaru: Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - Deddf Gamblo

 

Ffyrdd o roi eich barn

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch neges e-bost at licensing@pembrokeshire.gov.uk  fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch. 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 19th Ionawr 2026.

Canlyniadau disgwyliedig

Byddwn yn dadansoddi’r adborth a’r sylwadau a geir a bydd y pwyllgor trwyddedu yn ystyried hyn ar ddechrau 2026, gyda’r bwriad o’i gyflwyno gerbron y Cabinet i wneud penderfyniad yn nhymor y gwanwyn 2026

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflenni Microsoft

ID: 14508, revised 12/12/2025