Dweud eich dweud

Amcanion Llesiant Arfaethedig ar gyfer 2025-2030

3 Chwefror 2025

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n ofynnol i’r cyngor gynhyrchu amcanion llesiant i ddangos y cyfraniad y bydd y cyngor yn ei wneud at y nodau llesiant cenedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf. Ein strategaeth gorfforaethol yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan y cyngor i osod a mynegi ein hamcanion llesiant. Mae’r rhain yn bwysig, yn yr ystyr eu bod yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a wnawn, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer sut y mae’r cyngor yn bwriadu gwneud gwahaniaeth i wella llesiant pobl a chymunedau Sir Benfro.

Cytunodd y cyngor ar ein hamcanion llesiant presennol a’n strategaeth gorfforaethol ym mis Mai 2023. Rydym yn cynnig lleihau nifer yr amcanion llesiant o 12 i bedwar, er mwyn rhoi ffocws cliriach ar yr heriau a chyfleoedd allweddol sy’n wynebu’r cyngor.

Ein hamcanion llesiant drafft

  • Ein Dyfodol – galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, wrth eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol
  • Ein Lle – lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw'n dda a ffynnu
  • Ein Cymunedau – gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithgar, dyfeisgar a chysylltiedig
  • Ein Cyngor – cyngor sy’n gynaliadwy yn ariannol, wedi'i lywodraethu'n dda, gyda gweithlu sy'n gallu cefnogi'r bobl rydym yn eu gwasanaethu 

Eich barn 

Dyma'ch cyfle chi i ddweud wrthym beth yw eich barn chi am yr amcanion hyn. Gallwch weld yr amcanion Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2025-30 a’r hyn y byddwn yn ei wneud i’w cyflawni.

Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein.

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch ymholiadau@sir-benfro.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch. Dychwelwch y ffurflen i policy@pembrokeshire.gov.uk neu drwy'r post at Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 02 Chwefror 2025.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i helpu cynghorwyr i benderfynu ar yr amcanion llesiant sy’n ffurfio’r fframwaith ar gyfer ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer 2025 - 2030.

Pam fod angen i Gyngor Sir Penfro ddatblygu amcanion llesiant corfforaethol newydd?

Mae gennym rwymedigaeth i osod amcanion llesiant a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol. Rhaid i amcanion llesiant gael eu cynllunio i wneud y mwyaf o’n cyfraniad ni at gyflawni pob un o’r saith nod llesiant cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nod cyffredinol yr amcanion llesiant yw cyflawni datblygu cynaliadwy ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pum ffordd o weithio i’w dilyn er mwyn gwneud hyn.

Cytunwyd ar raglen weinyddu’r cabinet, sy’n nodi blaenoriaethau gwleidyddol y Grŵp Gweithredol, yn 2023. Mae’r rhaglen yn darparu’r cyfeiriad ar gyfer amcanion llesiant drwy nodi pa faterion sy’n bwysig i Sir Benfro a lle mae’r weithrediaeth eisiau gweithredu.

Yn dilyn ymgynghoriad, ein hamcanion llesiant y cytunwyd arnynt fydd asgwrn cefn y strategaeth gorfforaethol newydd ar gyfer 2025 - 2030. Bydd y camau gweithredu a'r mesurau a fydd yn rhan o destun y strategaeth yn dangos sut y byddwn yn cyflawni'r amcanion.

Rydym wedi gosod pedwar amcan llesiant newydd. Mae'r tri cyntaf yn wynebu’r cyhoedd. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i gael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau. Mae'r amcan llesiant olaf yn canolbwyntio ar sut mae'r cyngor yn gweithio. Mae hyn yn sail i'r tri amcan llesiant cyntaf ac yn cefnogi’r gwaith o’u cyflawni.

Yn dilyn ymgynghoriad, byddwn yn penderfynu ar ein set derfynol o amcanion llesiant. Pan fyddwn yn cyhoeddi’r rhain yn y strategaeth gorfforaethol, byddwn yn cynnwys datganiad ar sut mae’r amcanion llesiant terfynol yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd hwn yn manylu ar y canlynol:

  • sut mae’r amcanion terfynol yn bodloni’r saith nod llesiant cenedlaethol
  • sut rydym wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy (drwy’r pum ffordd o weithio)
  • sut rydym wedi cynnwys pobl
  • sut rydym wedi adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau

Bydd fersiwn derfynol y strategaeth gorfforaethol yn cael ei chymeradwyo gan y cyngor llawn. 

ID: 12466, revised 03/02/2025