Dweud eich dweud
Asesiad Capasiti Tirwedd Carafannau, Gwersylla a Chalet Drafft - Canllawiau Cynllunio Atodol
17 Rhagfyr 2024
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad wyth wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol hwn rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024.
Mae’r canllawiau’n darparu asesiad systematig o gapasiti Ardaloedd Cymeriad Tirwedd presennol yn y rhan o Sir Benfro y tu allan i’r Parc Cenedlaethol, i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o wahanol fathau o ddatblygiadau carafannau, gwersylla a chabanau gwyliau a mathau eraill o lety ar gyfer ymwelwyr sy’n dod i’r amlwg. Maent yn rhoi cyngor ar sail Ardaloedd Cymeriad Tirwedd ynghylch a oes modd uwchraddio neu ymestyn safleoedd presennol i gynyddu’r llety sydd ar gael, neu eu hymestyn i wella ymddangosiad, a/neu a ellir cynnwys safleoedd newydd.
Y bwriad nawr yw y dylid ei ddwyn ymlaen fel canllawiau cynllunio atodol i gefnogi Polisi GN 56 – Datblygiadau Carafannau, Gwersylla a Chabanau Gwyliau, o Gynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl 2) Cyngor Sir Penfro.
Eich Barn
Mae copïau o'r ddogfen ar wefan y Cyngor, yn yr adran ymgynghoriadau cyfredol, ac ar gyfrifiaduron sydd ar gael i'r cyhoedd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Edrychwch ar wefan y Cyngor am oriau agor y llyfrgell.
Mae copïau papur o’r prif ddogfennau i’w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Canolfan Gwasanaethau Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir a llyfrgelloedd Sir Benfro lle mae mynediad cyhoeddus ar gael.
Anfonwch eich sylwadau dros e-bost neu drwy’r post i: Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos 16 Rhagfyr 2024.
Caiff yr holl sylwadau eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ganol nos ar 16 Rhagfyr 2024.