Dweud eich dweud

Cynllun Datblygu Lleol 2 Ymgynghoriad ar Newidiadau a Ffocws

 

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Mae Cynllun Datblygu Lleol 2 a dogfennau ategol wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn eu harchwilio.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2024 ar fersiwn Cynllun Adneuo 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol 2, mae Cyngor Sir Penfro yn gwneud ‘newidiadau â ffocws’ mewn ymateb i’r sylwadau a ddaeth i law.

Mae’r newidiadau â ffocws hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol dros chwech wythnos rhwng dydd Llun, 4 Awst a hanner nos dydd Llun, 15 Medi 2025. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unigolion wneud sylwadau er mwyn cefnogi neu wrthwynebu’r newidiadau penodol hyn yn unig.

Mae’r amserlen o newidiadau â ffocws a’r dogfennau cyflwyno ar gael i’w gweld.

 

Eich barn chi

Os hoffech chi ddweud eich dweud ar y newidiadau â ffocws, gallwch chi wneud hynny gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau sydd ar gael ar-lein. Dylid defnyddio’r ffurflen hon i wneud sylwadau lle bynnag y bo modd. 

Anfonwch eich ffurflenni sylwadau drwy e-bost at ldp@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos 15 Medi 2025.  

Mae copïau papur o'r dogfennau ymgynghori ar gael hefyd yn Neuadd y Sir, Hwlffordd ac mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod oriau agor arferol. Edrychwch ar wefan y Cyngor am oriau agor llyfrgelloedd

Bydd yr holl sylwadau am y cynllun, gan gynnwys enwau’r rhai hynny sydd wedi gwneud sylwadau, ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

Bydd arolygydd cynllunio annibynnol yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad cyhoeddus i ystyried y sylwadau a ddaeth i law ac i benderfynu a yw’r cynllun yn gadarn. Rhoddir rhybudd o leiaf chwech wythnos cyn agor yr archwiliad.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Thîm Cynlluniau Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro drwy e-bostio ldp@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos ar 15 Medi 2025.  

ID: 13647, revised 30/10/2025