Dweud eich dweud
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft 2025 - 2030
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft wedi cael ei ddatblygu er mwyn helpu i greu rhwydwaith dibynadwy, cysylltiedig, fforddiadwy, cyfleus a hygyrch ar draws pob cymuned yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft hefyd yn ceisio sicrhau bod trafnidiaeth yn y dyfodol yn fforddiadwy ac yn gyfleus i greu mwy o opsiynau ar gyfer pobl leol.
Bydd y cynllun yn helpu i gefnogi cyflwyno system rheilffordd a system metro bysus yn Ne-orllewin Cymru. Daw'r cynllun hefyd cyn Bil Gwasanaeth Bysiau Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella gwasanaethau bysus yng Nghymru, naill ai drwy roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol drostynt neu drwy alluogi awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau.
Yn ogystal ag adborth ar-lein ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft, cynhelir digwyddiadau wyneb yn wyneb (yn agor mewn tab newydd) yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn yr wythnosau sy'n dod.
Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft bellach yn cynnwys mentrau a phrosiectau y bwriedir eu rhoi ar waith rhwng 2025 a 2030.
Eich Barn
Mae eich adborth yn bwysig oherwydd p'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio, yn dal bws neu drên neu’n gyrru, mae trafnidiaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn Ne-orllewin Cymru.
Mynegwch eich barn ar-lein naw r (yn agor mewn tab newydd)
Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 6 Ebrill.
Caiff pob barn sy'n cael ei derbyn yn ystod y rownd ymgynghori bresennol ei hystyried cyn bod fersiwn derfynol y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd gerbron Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i'w chymeradwyo.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.