Dweud eich dweud
Cynlluniau Teithio Llesol Saundersfoot 2024
18 Rhagfyr 2024
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn, sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:
- Stammers Road: Darparu llwybr cyd-ddefnyddio rhwng Harbwr Saundersfoot a Stammers Road. Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr sydd wedi'i gynllunio i hwyluso symudiad cerddwyr a beicwyr.
- Sandy Hill Road: Darparu llwybr cyd-ddefnyddio i ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng Saundersfoot a ffordd yr A478
- Frances Road: Creu llwybr cyd-ddefnyddio yn cysylltu traeth Neuadd Coppet â phentref Saundersfoot
Pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn?
Mae Cyngor Sir Penfro o’r farn bod cyfle i ddarparu cysylltiadau sydd yn eisiau a chysylltiadau sy’n fwy diogel o fewn y rhwydwaith teithio llesol presennol sy’n darparu cysylltedd i drigolion lleol ac ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd yn dda â’r darpariaethau presennol sydd eisoes ar gael. Mae rhai o’r llwybrau presennol, yn enwedig ar hyd Sandy Hill Road, yn anniogel ar gyfer cerdded, beicio a phobl â phroblemau symudedd, ein nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bawb ac annog pobl i deithio heb ddefnyddio eu cerbydau. Hoffem greu llwybr strategol sy’n caniatáu i bobl deithio yn Saundersfoot a’i gyffiniau heb ddefnyddio cerbyd; a thrwy hynny leihau tagfeydd, problemau parcio a phwysau traffig. Bydd annog y newid ymddygiad hwn nid yn unig yn arwain at ffordd iachach o fyw, ond bydd hefyd yn ffordd wyrddach a rhatach o deithio.
Nod y cynigion yw:
- Gwella diogelwch y rhwydwaith teithio llesol
- Annog teithio llesol cymdeithasol gynhwysol ar gyfer pob math o siwrneiau, gan gynnwys twristiaeth, hamdden, ysgol a gwaith
- Creu amgylchedd mwy diogel i feicwyr, cerddwyr a phobl â phroblemau symudedd
- Gwella hygyrchedd i feicwyr, cerddwyr a phobl â phroblemau symudedd
Ymgynghoriad cyhoeddus
Byddwn yn ceisio eich adborth ar y cynigion o fewn y cynlluniau, naill ai ar hyd y llwybr cyfan neu yn eich ardal benodol, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar anghenion seilwaith pellach i wella llwybrau beicio/cerdded a gwelliannau o ran hygyrchedd.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy / sesiwn galw heibio ar 19eg Tachwedd 2024, rhwng 10am a 12pm, rhwng 1pm a 4pm a rhwng 6:30pm–8pm yn The Coal Building, Harbwr Saundersfoot.
Bydd gan y sesiynau gynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro, i ateb unrhyw gwestiynau a all godi. Bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael i'r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 4 wythnos gan ddod i ben ar 17 Rhagfyr 2024.
Er bod y Cyngor Sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, yn cael eu lleoli yn The Coal Building, Harbwr Saundersfoot a Neuadd y Sir. Bydd y fersiwn argraffedig a’r arolygon papur yn parhau yn eu lle tan 17 Rhagfyr 2024, lle byddant yn cael eu casglu. Mae copïau wedi'u postio ar gael ar gais trwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost neu'r rhif cyswllt isod.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn terfynol a ffefrir yn cael ei nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir hwn ei benderfynu'n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.
Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gael i'w gweld ar wefan ein Strategaeth Drafnidiaeth, mae copïau caled hefyd wedi'u lleoli yn Yr Adeilad Glo, Harbwr Saundersfoot a Neuadd y Sir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.
Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau ar 17 Rhagfyr 2024 am hanner nos. Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.