Dweud eich dweud
Cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbyr
Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro ymgynghoriad statudol rhwng 5 Tachwedd 2025 a 19 Rhagfyr 2025, gyda chynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr.
Wedi hynny, cafodd yr adroddiad ymgynghori ei ystyried gan y cyngor sir yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2026. Roedd penderfyniad y cyngor fel a ganlyn;
Bod y Cyfarwyddwr Addysg yn cael ei awdurdodi i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr.
Cyhoeddwyd hysbysiad statudol wedi hynny ar 14 Ebrill 2026 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Daeth y cyfnod gwrthwynebu statudol ar gyfer yr hysbysiad i ben ar 11 Mai 2026. Daeth 62 o wrthwynebiadau i law.
Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli cyfrifoldeb y cyngor sir fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gyhoeddi adroddiad gwrthwynebiadau, ac mae’n darparu’r canlynol:
- crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a ddaeth i law, ac
- ymateb y cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny