Dweud eich dweud

Dewch i Siarad Byw yn Sir Benfro 2026

Mae Dewch i siarad: Byw yn Sir Benfro yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro.

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Sir Penfro i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Penfro. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Cyngor Sir Penfro a CLlLC yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 (yn agor mewn tab newydd) a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) - yn agor mewn tab newydd. Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym Mholisi Preifatrwydd y Cyngor a Pholisi Preifatrwydd CLILC (yn agor mewn tab newydd). 

Cwblhau’r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau:

Arolwg ar-lein.

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch neu lawrlwythwch gopi

Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill. 

Mae fersiynau hawdd eu deall ar gael hefyd:ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch neu lawrlwythwch gopi - Arolwg Hawdd ei Ddeall 

Mae copïau papur a fersiynau hawdd eu deall hefyd ar gael i’w casglu o brif dderbynfa Neuadd y Sir a derbynfeydd llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.  

Dychwelwch gopïau papur i:

Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn Dydd Llun, 01 Tachwedd 2026.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8680.

Diolch am gymryd yr amser i ymateb i’r arolwg Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro.

 

ID: 15819, revised 28/09/2026