Dweud eich dweud

Gorchymyn Amrywio Rhif 20 2026

Gorchymyn Cyngor Sir Penfro 

(Mannau Parcio oddi ar y Stryd)

(Cydgrynhoi) 2011 (Gorchymyn Amrywio Rhif 20 2026)

 

Datganiad o'r Rhesymau

Cynigir amrywio’r gorchymyn maes parcio ceir presennol, sef Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011, fel a ganlyn:

Diwygio cynllun y maes parcio yn y man parcio car â rhif 76

Bydd yr amrywiadau yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro reoli’r meysydd parcio ceir yn effeithiol ac yn unol â’n dyletswydd rheoli traffig.

20 Mai 2026

 

Mae Cyngor Sir Penfro, wrth arfer ei bwerau o dan adrannau 32 a 35, ac Atodlen 9 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”), ac fel y’i diwygiwyd, a darpariaethau Deddf Rheoli Traffig 2004 a phob pŵer galluogi arall yn y Ddeddf, ac ar ôl ymgynghori â phrif swyddog yr heddlu, yn unol ag Atodlen 9 i Ddeddf 1984, drwy hyn yn gwneud y gorchymyn a ganlyn:

Daw’r gorchymyn hwn i rym ar (dyddiad) a gellir ei alw’n Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011 (Gorchymyn Amrywio Rhif 18).

Bydd yr Atodlen (“yr Atodlen”) i Orchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011, a ddaeth i rym ar ddiwrnod cyntaf mis Chwefror 2011, yn cael ei hamrywio er mwyn cynnwys y canlynol:

  1. Diwygio cynllun y maes parcio mewn perthynas â’r man parcio car â rhif 76

Atodlen 1 

Eitem

Enw’r man parcio

Safle lle gall cerbyd aros

Dosbarth y cerbyd

Oriau a dyddiau gweithredu’r man parcio a’r cyfnod codi tâl

Cyfnod hiraf y gall cerbyd aros

Taliadau arfaethedig a/neu newidiadau 

[1]

[2]

[3]

[4]

[5]

[6]

[7]

76

Maes parcio aml-lawr, Dinbych-y-pysgod

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn

24 awr a deiliaid hawlenni

 Diwygio’r cynllun

 

Dyma ddosbarthiadau’r cerbydau y cyfeirir atynt uchod:

Dosbarthiadau cerbydau

  1. Beiciau modur unigol
  2. Cerbydau cofrestredig i’r anabl
  3. Ceir modur
  4. Cyfuniadau o feiciau modur
  5. Cerbydau modur sydd â phwysau cerbyd gros o lai na 3.5 tunnell neu sy’n llai na 5.5 metr o hyd
  6. Ôl-gerbydau
  7. Carafanau
  8. Cerbydau modur sydd â phwysau cerbyd gros o fwy na 3.5 tunnell ac sy’n fwy na 5.5 metr o hyd
  9. Coetsys
  10. Cychod a/neu ôl-gerbydau cychod sy’n llai na 3.5 tunnell neu 5.5 metr o hyd
  11. Cychod a/neu ôl-gerbydau cychod sydd dros 3.5 tunnell neu 5.5 metr o hyd

 

Diffiniadau parcio

Codir tâl
  • 1 Ionawr–31 Rhagfyr – Y llawr daear – 9am–7pm
  • 1 Ionawr–31 Rhagfyr – Lloriau 1, 2 a 3 – 24 awr
  • Taliadau’r Haf: 1 Mawrth–31 Hydref
  • Taliadau’r Gaeaf: 1 Tachwedd–28 Chwefror

 

Mae manylion llawn y cynigion wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft, ynghyd â chynlluniau sy’n dangos y man parcio yr effeithir arno, copi o Orchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011, a datganiad y cyngor o’r rhesymau dros gynnig gwneud y Gorchymyn, i’w cael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Swyddfa Barcio Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road, Dinbych-y-pysgod ac ar wefan Cyngor Sir Penfro. I gael manylion pellach, cysylltwch â Rheolwr Tir y Cyhoedd ar 01437 775404, neu anfonwch neges e-bost i: parking@pembrokeshire.gov.uk.

Rhaid i bob gwrthwynebiad sy’n ymwneud â’r gorchymyn arfaethedig gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig. Rhaid i bob gwrthwynebiad nodi ar ba sail y gwneir y gwrthwynebiad. Dylid anfon pob gwrthwynebiad a sylw ysgrifenedig o’r fath at yr islofnodedig yn y cyfeiriad a ddarperir isod, erbyn dydd Iau 11 Mehefin 2026.

Dyddiedig 20 Mai 2026

Sarah Oliver

Pennaeth Seilwaith a’r Amgylchedd

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1TP 

ID: 15340, revised 22/07/2026