Dweud eich dweud

Gosod Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2027-28

11 Awst 2026 - Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad 

Mae Cyngor Sir Penfro am geisio eich barn chi ar bremiwm y dreth gyngor sy’n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Benfro.  Mae premiwm treth gyngor yn ychwanegol at dâl safonol y dreth gyngor, sy’n cynnwys praeseptau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed–Powys a’r cynghorau tref a chymuned. 


Cyn cwblhau’r arolwg, darllenwch yr wybodaeth ategol. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys deddfwriaeth, y broses o wneud penderfyniadau, y rhesymeg dros osod premiymau, cymariaethau cyfraddau premiwm, mapio eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir Benfro, yr effaith bosibl ar yr economi a thwristiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, y gymuned leol, a’r Gymraeg, a’r mesurau sydd ar gael i gynyddu’r cyflenwad tai ac argaeledd tai fforddiadwy. 

Gweler hefyd yr Asesiad Effaith Integredig sy’n cynnwys ein hasesiad o’r effaith y gallai’r premiymau a godir ei chael ar y Gymraeg a materion eraill. Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ateb cwestiynau am hyn.

Eich Barn

Mae ystyried eich barn chi yn rhan hanfodol o’n proses adolygu flynyddol. Mae’r ymgynghoriad am geisio eich barn chi ar y canlynol:

  • Premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ar gyfer 2027–28
  • Premiwm y dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor 2027–28
  • Sut y dylid gwario unrhyw gyllid a godir o’r premiwm yn 2027–28

Cwblhewch ein harolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 neu e-bostiwch revenue.services@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch. 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw Dydd Llun, 10 Awst 2026. 

Bydd yr ymatebion yn cael eu crynhoi mewn adroddiad dienw (h.y. os byddwch yn darparu unrhyw fanylion personol fel eich enw fel rhan o’ch ymateb, ni fyddwn yn cynnwys y manylion hyn) a’u defnyddio i lywio Asesiad Effaith Integredig. Bydd y Cabinet yn ystyried y rhain yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2026.  Bydd penderfyniad terfynol ar yr opsiynau, gan gynnwys defnyddio unrhyw gyllid a godir gan y premiymau, yn cael ei wneud gan y cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2026.  Daw’r penderfyniad hwn i rym ar 1 Ebrill 2027.

Hysbysiad Preifatrwydd - Microsoft Forms

ID: 15499, revised 11/08/2026