Dweud eich dweud
Gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol a chysylltedd yn Noc Penfro
29 Gorffennaf 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:
- Y Stryd Fawr
- Bush Street
- Trinity Road
- Prospect Place / Parc Coffa
Mae llwybr cyd-ddefnyddio wedi’i gynllunio ar gyfer cerddwyr, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, a beicwyr. Mae’r llwybrau hyn oddi ar y ffordd, gan ddarparu diogelwch i ffwrdd o’r traffig. Maent yn cynnig llwybrau diogel ar gyfer teithio i’r gwaith neu leoliadau addysg ac yn annog ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy i unigolion deithio o fewn eu cymuned. Ni fwriedir i farchogion ddefnyddio’r llwybrau cyd-ddefnyddio arfaethedig.
Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gael i'w gweld a'u lawrlwytho ar gwefan Cyngor Sir Penfro.
Pam ydyn ni’n cynnig y newidiadau hyn?
Mae’r awdurdod hwn yn cynnig gwella’r llwybrau teithio llesol presennol yn Noc Penfro a fydd yn cynnwys cyflwyno llwybrau newydd yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol i annog mwy o gerdded, olwyno a beicio o fewn y dref, gyda’r weledigaeth o drosi rhai llwybrau troed yn llwybrau cyd-ddefnyddio. Ein nod yw creu amgylchedd diogel i bawb ac annog pobl i deithio heb ddefnyddio’u cerbydau. Un o brif amcanion y prosiect hwn yw gwella cysylltedd rhwng rhan isaf y dref a gweddill y gymuned, gan sicrhau mynediad cyfleus at gyfleusterau ac ysgolion lleol.
Nod y cynnig yw:
- Creu llwybr teithio llesol diogel yn y dref
- Gwella cysylltedd y rhwydwaith presennol
- Gwella diogelwch y ffyrdd ar gyfer cerddwyr, olwynwyr, a beicwyr
- Annog teithio llesol sy’n cynnwys pawb yn y gymuned ar gyfer pob math o deithiau gan gynnwys teithiau’n ymwneud â thwristiaeth a hamdden
- Lleihau faint mae’r preswylwyr yn dibynnu ar eu ceir, lleihau’r ôl troed carbon, llygredd, a thagfeydd
- Gwella’r amgylchedd ac iechyd a llesiant cymdeithasol y gymuned
Eich Barn
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 24 Mehefin 2025, rhwng 9am a 5pm yn Neuadd Pater. Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn y sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi.
Bydd yr arolwg ar-lein ar gael am bum wythnos, gan ddod i ben am ganol nos ar 28 Gorffennaf 2025.
Bydd copïau caled o'r cynlluniau ar gael o Neuadd y Sir ar 24 Mehefin 2025. Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan gwefan Strategaeth Drafnidiaeth ac mae copïau caled ar gael ar gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm trwy anfon neges e-bost i majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiwn a ffefrir ei benderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.
Diolch am eich amser yn cwblhau'r arolwg hwn.