Dweud eich dweud
Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2024
22 Tachwedd 2024:
Sbotolau yn disgleirio ar bobl ifanc y Sir mewn gwobrau blynyddol
Cynhaliwyd pedwaredd noson Gwobrau Sbotolau Sir Benfro ar 22 Tachwedd 2024, sy'n dathlu plant a phobl ifanc sy'n cyflawni pethau rhagorol ac sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
20 Hydref 2024:
Ffurflen enwebu wedi cau.
Yn dilyn llwyddiant blaenorol Gwobrau Sbotolau Sir Benfro, sy'n dathlu plant a phobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac wedi cyflawni rhywbeth eithriadol, rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad ar 22 Tachwedd 2024
Unwaith eto, mae BAM Nuttall, Aberaeron CDS, yn garedig iawn yn noddi’r fenter hon ar y cyd rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi trefnu i’r digwyddiad hwn gael ei gynnal eto eleni, a Gwasanaethau Plant o fewn Cyngor Sir Penfro.
Rydym yn eich gwahodd i enwebu unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc rydych chi'n meddwl sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau eithriadol. Mae cyfanswm o 11 o gategorïau gwahanol ac mae esboniad mwy manwl o’r rhain ar y ffurflen enwebu .
- Y stori fwyaf ysbrydoledig
- Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned
- Sicrhau newid cadarnhaol
- Arweinydd ifanc/Mentora cyfoedion
- Celfyddydau
- Cerddoriaeth
- Chwaraeon
- Addysg
- Eco-Hyrwyddwr
- Llais
- Codi Arian
Cymerwch eiliad i gwblhau’r Ffurflen enwebu - Gall unrhyw un enwebu!
Os hoffech gopi papur, anfonwch neges e-bost at Nicky.Edwards@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Hydref 2024