Dweud eich dweud

Hunanasesiad Blynyddol 2024-25

 

06 Medi 2025

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Ynghylch yr ymgynghoriad

Mae angen i ni gyhoeddi hunanasesiad o'n perfformiad yn ystod pob blwyddyn.

Mae'r asesiad yn edrych i weld a ydym yn gwneud y canlynol:

  • arfer ein swyddogaethau yn effeithiol
  • defnyddio adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
  • rhoi gwaith llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau’r uchod

Mae'r hunanasesiad yn ymwneud â sut mae'r sefydliad yn gweithredu yn ei gyfanrwydd; nid yw'n asesiad o berfformiad gwasanaethau unigol.

Gweler Hunanasesiad Blynyddol 2024-25.

 

Eich barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o’n proses adolygu.

Gallwch roi eich barn ar Hunanasesiad Blynyddol 2024/2025 drwy lenwi ein ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Os hoffech gael copi papur o’r ffurflen ymateb, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk, fel y gallwn wneud trefniadau i’w bostio atoch. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn cael eu hystyried a gellir eu hymgorffori yn fersiwn derfynol yr adroddiad fel y bo'n briodol (os byddwch yn darparu unrhyw fanylion personol, fel eich enw, fel rhan o’ch ymateb, ni fyddwn yn cynnwys y manylion hyn).

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener, 05 Medi 2025.

 

Bydd fersiwn derfynol ein hadroddiad hunanasesu yn cael ei chymeradwyo gan y cyngor ym mis Hydref 2025, a bydd ar gael i’r cyhoedd ar ein gwefan yn dilyn hyn.

ID: 13839, revised 30/10/2025