Dweud eich dweud

Hysbysiad Amrywio Taliadau Mannau Parcio Ebrill 2026

Gorchymyn Cyngor Sir Penfro 

(Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011

(Gorchymyn Amrywio Rhif 17 2026)

 

Datganiad o'r Rhesymau

Cynigir amrywio’r gorchymyn maes parcio ceir presennol, sef Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011, fel a ganlyn:-

 

  1. Cyflwyno maes parcio newydd yng ngholofn 2 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 11C.
  2. Cyflwyno maes parcio newydd yng ngholofn 2 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 11D.
  3. Dirymu Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011 i’r graddau y mae’n ymwneud ag eitem rhif 26A, maes parcio Hole in the Wall, Hwlffordd, a fydd yn cael yr effaith o gau a thynnu’r maes parcio oddi ar y rhestr o feysydd parcio ceir.
  4. Diwygio’r cyfnod hwyaf y gall cerbyd aros yng ngholofn 6 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 24.
  5. Cyflwyno tariff 4 awr yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio ceir rhif 24.
  6. Diwygio’r cyfnod codi tâl i 24 awr ym man parcio rhif 27.
  7. Dirymu’r cilfannau ‘siopa cyflym’ 30 munud yng ngholofn 7 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 27.
  8. Diwygio’r tariff 1 awr cyfredol i £0.00 yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  9. Diwygio’r tariff 24 awr cyfredol i £4.50 yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  10. Cyflwyno tariff 10 awr yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  11. Cyflwyno tariff ‘beic modur’ yng ngholofn 8 yr Atodlen ar gyfer cerbydau dosbarthiadau 1 a 4 yng ngholofn 4 ar gyfer man parcio ceir rhif 27.
  12. Diwygio’r taliadau parcio yng ngholofn 8 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 27 i alluogi’r holl dariffau i fod ar gael ar bob llawr.
  13. Cyflwyno dosbarth 9 fel dosbarth newydd o gerbyd yng ngholofn 4 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 27.

 

Bydd yr amrywiadau yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro reoli’r meysydd parcio ceir yn effeithiol ac yn unol â’n dyletswydd rheoli traffig

15fed Ebrill 2026

 

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Penfro yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan adrannau 32 a 35 a Ran IV o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”) fel y’i diwygiwyd, a darpariaethau Deddf Rheoleiddio Traffig 2004 a’r holl bwerau galluogi eraill.

 

Effaith y gorchymyn fydd amrywio’r Atodlen i Orchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011, mewn perthynas â’r mannau parcio a restrir yn y tabl isod, i wneud darpariaeth fel a ganlyn:-

 

  1. Cyflwyno maes parcio newydd yng ngholofn 2 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 11C.
  2. Cyflwyno maes parcio newydd yng ngholofn 2 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 11D.
  3. Dirymu Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011 i’r graddau y mae’n ymwneud ag eitem rhif 26A, maes parcio Hole in the Wall, Hwlffordd, a fydd yn cael yr effaith o gau a thynnu’r maes parcio oddi ar y rhestr o feysydd parcio ceir.
  4. Diwygio’r cyfnod hwyaf y gall cerbyd aros yng ngholofn 6 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 24.
  5. Cyflwyno tariff 4 awr yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio ceir rhif 24.
  6. Diwygio’r cyfnod codi tâl i 24 awr ym man parcio rhif 27.
  7. Dirymu’r cilfannau ‘siopa cyflym’ 30 munud yng ngholofn 7 yr Atodlen ar gyfer man parcio ceir rhif 27.
  8. Diwygio’r tariff 1 awr cyfredol i £0.00 yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  9. Diwygio’r tariff 24 awr cyfredol i £4.50 yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  10. Cyflwyno tariff 10 awr yng ngholofn 8 ar gyfer man parcio rhif 27.
  11. Cyflwyno tariff ‘beic modur’ yng ngholofn 8 yr Atodlen ar gyfer cerbydau dosbarthiadau 1 a 4 yng ngholofn 4 ar gyfer man parcio ceir rhif 27.
  12. Diwygio’r taliadau parcio yng ngholofn 8 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 27 i alluogi’r holl dariffau i fod ar gael ar bob llawr.
  13. Cyflwyno dosbarth 9 fel dosbarth newydd o gerbyd yng ngholofn 4 yr Atodlen ar gyfer man parcio rhif 27.

 

Atodlen 1

Eitem

Enw’r man parcio

Safle lle y gall cerbyd aros

Dosbarth y cerbyd

Oriau a dyddiau gweithredu’r man parcio a'r cyfnod codi tâl

 Y cyfnod hwyaf y gall cerbyd aros

 Taliadau cyfredol

Taliadau arfaethedig a / neu newidiadau

[1]

[2]

[3]

[4]

[5]

[6]

[7]

[8]

11C

Gelliswick, Gelliswick

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 10, 11

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn           

Dim terfyn

Dim tâl

Dim tâl

11D

Glan môr Gelliswick, Gelliswick

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5, 8

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn           

Dim terfyn

Dim tâl

Dim tâl

24

Perrots Road, Hwlffordd

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn

4 awr

1 awr – £1.00 

2 awr – £2.00

 

Ar gadw – £200

 

1 awr – £1.00 

2 awr – £2.00

4 awr – £3.00

 

Ar gadw – £200

26A

Hole in the Wall, Hwlffordd

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn

24 awr a deiliaid hawlenni

Dim tâl

Dirymu’r maes parcio

27

Maes parcio aml-lawr Glan-yr-afon, Hwlffordd

Yn gyfan gwbl o fewn cilfan barcio

1, 2, 3, 4, 5, 9

Pob awr ar bob diwrnod o’r flwyddyn

24 awr a deiliaid hawlenni

Pob llawr – cyfnod codi tâl: 09:00–19:00

Llawr daear

1 awr – £1.00

‘Siopa cyflym’ (30 munud) – £0.00

 

Lloriau 1, 2 a 3

2 awr – £2.00

4 awr – £3.00

24 awr – £4.00

 

Pob llawr – cyfnod codi tâl: 24 awr

1 awr – £0.00

2 awr – £2.00

4 awr – £3.00

10 awr – £3.50

24 awr – £4.50

 

Beic modur 24 awr – £1.00

 

Dyma ddosbarthiadau’r cerbydau y cyfeirir atynt uchod:

Dosbarthiadau cerbydau.

  1. Beiciau modur unigol
  2. Cerbydau cofrestredig i’r anabl
  3. Ceir modur
  4. Cyfuniadau o feiciau modur
  5. Cerbydau modur sydd â phwysau cerbyd gros o lai na 3.5 tunnell neu sy’n llai na 5.5 metr o hyd
  6. Ôl-gerbydau
  7. Carafanau
  8. Cerbydau modur sydd â phwysau cerbyd gros o fwy na 3.5 tunnell ac sy’n fwy na 5.5 metr o hyd
  9. Coetsys
  10. Cychod a/neu ôl-gerbydau cychod sy’n llai na 3.5 tunnell neu 5.5 metr o hyd
  11. Cychod a/neu ôl-gerbydau cychod sydd dros 3.5 tunnell neu 5.5 metr o hyd

 

Mae manylion llawn y cynigion wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Ddrafft, ynghyd â chynlluniau sy’n dangos y man parcio yr effeithir arno, copi o Orchymyn Cyngor Sir Penfro (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2011 a datganiad y cyngor o’r rhesymau dros gynnig gwneud y gorchymyn, i’w cael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd.  I gael manylion pellach, cysylltwch â Rheolwr Tir y Cyhoedd ar 01437 775404, neu anfonwch neges e-bost i: parking@pembrokeshire.gov.uk.

 

Rhaid i bob gwrthwynebiad sy’n ymwneud â’r gorchymyn arfaethedig gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig.  Rhaid i bob gwrthwynebiad nodi ar ba sail y gwneir y gwrthwynebiad.   Dylid anfon pob gwrthwynebiad a sylwadau ysgrifenedig o’r fath at yr islofnodedig yn y cyfeiriad a ddarperir isod, erbyn dydd Iau 7fed Mai 2026.

 

Dyddiedig 15fed Ebrill 2026

 

Sarah Oliver

Pennaeth Trafnidiaeth a Gweithrediadau

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1TP

 

Mae’r holl Orchmynion Amrywio i’w gweld ar wefan Patrol (yn agor mewn tab newydd) 

ID: 15184, revised 08/05/2026