Dweud eich dweud

Llyfrgell Abergwaun

 

21 Awst 2025

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch modelau gweithredu posibl yn y dyfodol ar gyfer y llyfrgell gyhoeddus yn Neuadd y Dref, Abergwaun

Cefndir

Mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau ariannol parhaus. Mae’n ofynnol i’r gwasanaeth llyfrgell a’r adran gyfleusterau (sy’n rheoli Neuadd y Dref) gyfrannu at ymdrechion i fynd i’r afael â’r her hon. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor tref a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy.

Felly, mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i lunio gan Gyngor Sir Penfro (CSP) ar y cyd â Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig, i gasglu eich barn ar yr opsiynau posibl ar gyfer rheoli llyfrgell Abergwaun yn y dyfodol, yng nghyd-destun Neuadd y Dref a reolir yn wahanol.

O ran Neuadd y Dref, mae’r cyngor tref yn ystyried cymryd dros reolaeth yr eiddo cyfan fel trosglwyddiad o ased cymunedol, er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn cael ei gadw. Felly, mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chael eich barn ar yr opsiwn gorau i leihau costau rhedeg y llyfrgell, er mwyn ei gwneud yn gynaliadwy yn ariannol yn ei lleoliad presennol.

Mae cyd-weithgor (Cyngor Sir Penfro a Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig) wedi’i sefydlu i ymchwilio i wahanol opsiynau a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r grŵp yn arbennig o awyddus i gael eich barn ar y posibilrwydd o greu partneriaeth llyfrgell a reolir gan y gymuned, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol.

Er mwyn cefnogi’r ymgynghoriad hwn, mae cyfarfod cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer: Dydd Llun, 14 Gorffennaf, am 6.30pm yn Neuadd y Dref.

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar sut mae partneriaeth llyfrgell a reolir gan y gymuned yn gweithredu, ac i weld a oes digon o bobl leol â diddordeb mewn gwirfoddoli.

Nid yw hyn yn awgrymu mai dyma’r opsiwn a ffefrir gan y gweithgor; yn hytrach, mae’n adlewyrchiad o’r ffaith ei fod yn opsiwn mwy cymhleth i’w ddeall na’r opsiynau eraill sy’n cael eu hystyried. Credwn y byddai’n elwa ar drafodaeth agored, er mwyn sicrhau eich bod yn deall yr hyn y byddai angen ei wneud, ac i weld a oes diddordeb lleol.

Eich Barn

Mae croeso ichi gwblhau’r ymgynghoriad hwn hyd yn oed os nad ydych wedi gallu mynd i’r cyfarfod.

Mae’r ymgynghoriad ar-lein (yn agor mewn tab newydd) dechrau ddydd Iau, 10 Gorffennaf, ac yn cau ddydd Mercher, 20 Awst, am 5pm.

Mae copïau papur ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Neuadd y Dref Abergwaun. Mae copïau print bras ar gael ar gais.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i phrosesu’n ddiogel yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Penfro.

Diolch am roi o’ch amser.

ID: 13670, revised 30/10/2025