Dweud eich dweud

Newidiadau Arfaethedig i Wasanaethau Bysiau yn ardal Hwlffordd

Rydym yn ymgynghori ynghylch newidiadau arfaethedig i nifer o wasanaethau bysiau yn ardal Hwlffordd.  Nod y newidiadau arfaethedig yw gwella dibynadwyedd y gwasanaethau hyn a darparu cysylltiadau gwell â gwasanaethau bysiau a threnau eraill.  

Mae'r cynigion yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:

  • 301 – Gwasanaeth tref Hwlffordd
  • 307 – Hwlffordd – Pontfadlen (mewn cylch)
  • 308 – Hwlffordd – Llangwm – Burton (mewn cylch)
  • 311 – Hwlffordd i Aberllydan
  • 313 – Hwlffordd i Gas-wis

Newidiadau Arfaethedig i Wasanaethau Bysiau yn ardal Hwlffordd

 

Eich Barn Chi

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses y cyngor o wneud penderfyniadau. 

Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd). Cwblhewch yr arolwg erbyn 26 Ionawr 2026

Os hoffech gael copi papur, anfonwch neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551.  

Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyn cadarnhau newidiadau i'r gwasanaeth.  Mae'n debygol y bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno o fis Mawrth 2026. 

ID: 14550, revised 14/01/2026