Dweud eich dweud
Newidiadau Arfaethedig i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2025-26
17 Chwefror 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Cefndir
Yr haf diwethaf, cynhaliwyd asesiad o anghenion llyfrgelloedd i ofyn i’r cyhoedd am eu hanghenion ac i ystyried rhai syniadau ar gyfer lleihau costau llyfrgelloedd. Gwnaed hyn mewn ymateb i fwlch cyllido Cyngor Sir Penfro a oedd, ar ddechrau mis Ionawr 2025, yn £27.4 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026, gan olygu bod angen lleihau costau a chynyddu incwm er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth.
Roedd yr adborth ar y chwe awgrym a gyflwynwyd fel rhan o’r asesiad o anghenion llyfrgelloedd yn glir. Nid oedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r canlynol:
- Cau llyfrgelloedd
- Disodli staff a gosod technoleg mynediad 24/7
- Lleihau’r gronfa lyfrau
Roedd mwy o gefnogaeth ar gyfer:
- Gweithio gyda gwirfoddolwyr
- Lleihau costau adeiladau drwy gydleoli gwasanaethau mewn llyfrgelloedd neu leihau’r gwasanaethau
- Lleihau oriau agor.
Nodwyd canfyddiadau’r asesiad o anghenion llyfrgelloedd gan y cabinet yn ei gyfarfod ar 2 Rhagfyr 2024.
Gofynnwyd i'r gwasanaeth llyfrgelloedd, ynghyd â gwasanaethau eraill, gyflwyno cynigion i leihau costau a/neu gynyddu incwm. Gofynnwyd i ni fodelu opsiynau ar gyfer arbedion yn y gyllideb o 10%, 20%, 30% a 60% ar gyfer 2025-2026. Cafodd yr opsiynau hyn eu cynnwys mewn atodiad i bapur cyllideb y cabinet, a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2024 hefyd.
Er bod pob un o’r pedwar opsiwn yn parhau i fod yn bosibl, mae’r cyngor yn ceisio lleihau unrhyw effeithiau negyddol ar gymunedau lleol. Yn benodol, mae’n dymuno osgoi, pan fo’n bosibl, rhoi unrhyw gynigion ‘gwaedgoch’ ar waith, sef yr ymyriadau hynny yr ystyrir y byddant yn cael yr effaith negyddol fwyaf. Mae'r gostyngiadau o 30% a 60% yng nghyllideb llyfrgelloedd yn rhan o’r categori ‘gwaedgoch’, tra bod yr opsiwn 20% yn y categori ‘coch’, a’r opsiwn 10% yn y categori ‘ambr’.
Bydd y cyngor yn pennu ei gyllideb ar 20 Chwefror 2025, a bydd yn gliriach ar ôl y cyfarfod hwnnw pa lefel o arbedion sydd eu hangen mewn perthynas â’r gwasanaeth llyfrgelloedd. Fodd bynnag, ni allwn aros tan hynny i ddechrau ein hymgynghoriad â chi oherwydd byddai gwneud hynny yn oedi unrhyw weithredu, ac felly'n lleihau'r arbedion y gellir eu cyflawni ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026.
Ar hyn o bryd, felly, rydym yn paratoi ar y tyb y bydd toriad o 20% i’r gyllideb, a hoffem ymgynghori â chi i wybod pa elfennau’r toriad hwn a fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar ddefnyddwyr llyfrgelloedd. Os bydd canran y toriadau yn fwy neu’n llai na’r 20% rydym yn ei amcangyfrif, byddwn yn dechrau ymgynghoriad newydd er mwyn cael eich adborth ar unrhyw gynigion newydd neu wahanol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd, felly, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sydd â’r nod o gasglu adborth ar newidiadau arfaethedig mewn tair llyfrgell: Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro.
Ar gyfer pob llyfrgell, rydym wedi ystyried canfyddiadau'r asesiad o anghenion llyfrgelloedd wrth gyflwyno cynigion.
- Llyfrgell Aberdaugleddau: y cynnig yw naill ai: symud y llyfrgell i adeilad llai/rhatach neu sefydlu partneriaeth a reolir gan y gymuned yn y llyfrgell bresennol.
- Llyfrgell Penfro: y cynnig yw lleihau’r oriau agor wyth awr yr wythnos.
- Llyfrgell Doc Penfro: y cynnig yw lleihau’r oriau agor saith awr yr wythnos.
Llyfrgell Aberdaugleddau: rhoddir gwybodaeth ychwanegol sy’n amlinellu sut y byddai’r opsiwn i sefydlu partneriaeth a reolir gan y gymuned yn gweithio’n ymarferol. Mae cyfarfod cyhoeddus hefyd yn cael ei gynnal ddydd Llun, 3 Chwefror 2025, am 6.30pm i drafod yr opsiwn hwn ymhellach. Mae croeso i bawb fod yn bresennol.
Eich Barn
Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, mae copïau papur o'r ymgynghoriadau ar gael ym mhob un o'r tair llyfrgell yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Bydd y fersiwn argraffedig, a’r arolygon papur, ar gael o’r lleoliadau hyn tan 5pm, ar 17 Chwefror 2025, pan fydd yr ymgynghoriadau’n dod i ben. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi wedyn.
Bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud gan y cabinet, a fydd yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad hwn ynghyd â'r asesiad o anghenion llyfrgelloedd.
Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriadau, cliciwch ar y ddolen/dolennau priodol isod, a fydd yn mynd â chi at yr arolwg/arolygon eu hunain. Gwyddom fod cwsmeriaid yn aml yn defnyddio mwy nag un llyfrgell, felly mae croeso i chi gymryd rhan mewn un, dau, neu bob un o’r tri arolwg, os ydych chi’n dymuno.
Arolwg Llyfrgell Aberdaugleddau
Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cau am 5pm, ddydd Llun, 17 Chwefror 2025.
Diolch am roi o’ch amser.