Dweud eich dweud

Newidiadau Arfaethedig ir Gwasanaethau Bws 2024

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.

 

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r gwasanaethau bws canlynol:

  • 302 – Hwlffordd i Hubberston
  • 322 – Hwlffordd i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
  • 349 – Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod drwy Ddoc Penfro
  • 356 – Aberdaugleddau i Monkton
  • 381 – Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Arberth

Nod y newidiadau arfaethedig yw gwella prydlondeb a phrofiad teithwyr. Os cânt eu cymeradwyo, byddai’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2024.

 

Mae’r cynigion yn dilyn y drefn ganlynol:

POB Gwasanaeth – â llwybrau drwy Barc Manwerthu Llwynhelyg ac Ysbyty Llwynhelyg

  • Ar ôl gadael Gorsaf Fysiau Hwlffordd, byddai holl wasanaethau First Cymru yn galw ym Mharc Manwerthu Llwynhelyg, Ysbyty Llwynhelyg, a depo First Cymru ar Ystad Ddiwydiannol Llwynhelyg, ac yna’n teithio o amgylch y ffordd osgoi cyn parhau â’u taith ymlaen.   
  • Gall teithwyr sy’n dymuno teithio i’r parc manwerthu neu’r ysbyty aros ar eu bws pan fydd yn cyrraedd Gorsaf Fysiau Hwlffordd, ac yna cânt eu gollwng yn yr arosfannau hyn.  
  • Byddai’r holl deithwyr sy’n teithio i Barc Manwerthu Llwynhelyg ac oddi yno yn defnyddio’r safle bws tua’r gogledd ar Ffordd Sydney Rees.  Dyma'r safle bws y tu allan i Home Bargains ar yr un ochr i'r ffordd â'r parc manwerthu. 
  • Byddai gwasanaethau'n galw yn nepo First Cymru ar Ystad Ddiwydiannol Llwynhelyg i ganiatáu ar gyfer newid gyrwyr, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gwasanaeth.

302 Hwlffordd i Hubberston

  • Cynigir amseroedd diwygiedig, yn enwedig yn ystod oriau brig.  Mae angen yr amser ychwanegol oherwydd tagfeydd traffig yn Hwlffordd ac Aberdaugleddau, sydd ar hyn o bryd yn gohirio’r gwasanaeth ar adegau prysur ac yn cael effaith gynyddol drwy gydol y dydd.
  • O ganlyniad, ni fyddai’r gwasanaeth hwn bellach yn cael ei gynnal yn union bob hanner awr, a byddai tair taith yn llai bob dydd.

322 Hwlffordd i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

  • Cynigir amseroedd diwygiedig i fynd i'r afael â thagfeydd a brofir ar hyd y llwybr.
  • Mae mân newid arfaethedig i'r llwybr yn ardal Caerfyrddin. Byddai’r gwasanaeth yn galw yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin ac yna’n mynd yn syth i Ysbyty Glangwili ar hyd y ffordd osgoi. Ni fyddai unrhyw newid i’r gwasanaeth dychwelyd – byddai hwn yn mynd drwy’r dref ac yn galw yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin eto cyn gadael am Hwlffordd.
  • Bydd y gwasanaeth yn dal i gysylltu â'r 322 ar gyfer teithio rhwng Caerfyddin a Dinbych-y-pysgod

 349 Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro

  • Cynigir amseroedd diwygiedig, yn enwedig yn ystod oriau brig.  Mae hyn yn golygu na fyddai'r gwasanaeth bellach yn gadael ar yr un pryd bob awr. 
  • Byddem yn adfer ymadawiad dyddiol am 14:20 o Hwlffordd (sydd ond yn gweithredu ar ddydd Sadwrn ac yn ystod gwyliau ysgol ar hyn o bryd).
  • Yn dilyn ymgynghoriad lleol, nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth yn ardal Penalun ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro amhariadau ar wasanaethau ym mhentref Penalun a achosir gan rwystrau ffyrdd megis parcio anystyriol.
  • Byddai aros hwy am gysylltiadau i'r gwasanaeth 381, ac ohono, ar gyfer teithio ymlaen i Saundersfoot, Cilgeti ac Arberth.

356 Aberdaugleddau i Monkton

  • Cynigir y byddai gwasanaeth 11:15 o Aberdaugleddau yn dod i ben yn Pembroke Coach House am 12:08 (nid Monkton) er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol i yrwyr gael egwyl.

381 Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod trwy Arberth

  • Cynigir amseroedd diwygiedig, yn enwedig yn ystod oriau brig. Mae hyn yn golygu na fyddai'r gwasanaeth bellach yn gadael ar yr un pryd bob awr. 
  • Dim ond ar ddiwrnodau ysgol am 8:19 (o Gilgeti) a 15:30 (yn dychwelyd) y byddai'r gwasanaeth yn galw yn Heywood Lane (Ysgol Greenhill).
  • Byddai aros hwy am gysylltiadau i'r gwasanaeth 349, ac ohono, ar gyfer teithio ymlaen i Benfro a Doc Penfro.
  • Bydd y gwasanaeth yn dal i gysylltu â'r 322 ar gyfer teithio rhwng Caerfyddin a Dinbych-y-pysgod.

Cliciwch yma i weld yr amserlenni presennol ac arfaethedig:

302 Amserlen

322 Amserlen

349 Amserlen

381 Amserlen

 

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynigion hyn, anfonwch e-bost at public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551 erbyn 12 hanner dydd ddydd Llun 29 Gorffennaf.

ID: 11798, revised 04/11/2024