Dweud eich dweud
Panel Mynediad Gofyn 2024
Cyngor Sir Penfro yn Lansio Panel Mynediad GOFYN
Mae Tîm Mynediad Cyngor Sir Penfro yn lansio Gofyn – ffordd i bobl ag amhariadau / anableddau / anghenion ychwanegol leisio eu barn lle mae’n cyfrif, boed yn ymwneud â chynllun ffordd newydd neu glwb cinio newydd.
Bydd Gofyn hefyd yn darparu ffordd i sefydliadau ofyn am farn pobl a all ddefnyddio neu gael mynediad at eu cynnyrch, datblygiad neu wasanaeth, ar sut i wneud i hyn weithio iddyn nhw.
A oes gennych chi gwestiynau?
Gwych – dyma yn llythrennol yw Gofyn! Mae Gofyn yn ymwneud â holi, felly mae hyn i gyd yn ymwneud â chwestiynau. Drwy’r cwestiynau hyn cawn ddysgu beth mae pobl eisiau, a sut y gallwn wneud i bethau weithio orau i bawb.
Sut bydd yn gweithio?
Gwahoddir pobl ledled Sir Benfro i gofrestru’n aelodau o Gofyn a dweud wrthym beth sydd o ddiddordeb iddynt drwy gwblhau ein harolwg ar-lein.
Pan fyddwn yn dod yn ymwybodol o unrhyw ymgynghoriadau, neu fod sefydliad yn dod atom ac yn gofyn am farn, syniadau neu sylwadau aelodau Gofyn, byddwn yn estyn allan at unrhyw aelodau sydd â diddordeb ac yn gofyn iddynt roi adborth.
Mae hyn yn golygu y dylai pethau weithio’n well i bobl sydd eisiau neu angen eu defnyddio o’r dechrau, ac na fydd angen eu hailgynllunio i fod yn hygyrch yn nes ymlaen (gan wneud pethau’n gyflymach, yn rhatach ac yn barod i bawb o’r dechrau).
Cysylltwch â ni gyda’ch cwestiynau drwy ffonio, neu drwy anfon neges e-bost, neges destun neu lythyr atom. Gallwn hyd yn oed gwrdd â chi yn rhywle i siarad am Gofyn os mai dyna beth hoffech i ni ei wneud. Os hoffech gyfathrebu gan ddefnyddio fformat arall, rhowch wybod i ni.
Sut ydw i’n cysylltu?
Mae Emma Lewis, un o Swyddogion Mynediad Cyngor Sir Penfro yn datblygu ac yn rheoli Gofyn.
Cysylltwch ag Emma Lewis dros y ffôn ar 01437 775 395; anfonwch neges ebost i accessofficer@pembrokeshire.gov.uk neu anfonwch lythyr drwy’r post i Gofyn, Swyddfa Mynediad, 3D, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Hysbysiad Preifatrwydd Gofyn