Dweud eich dweud

Steynton i Hen Heol Bulford Gwelliannau ir rhwydwaith teithio llesol

Diweddariad Mawrth 2025:

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ynghyd â'r adborth a gafwyd yn ystod y diwrnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14eg Chwefror 2025. Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru maes o law yn cadarnhau a fydd y cynigion yn cael eu datblygu.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein hwn sy’n ceisio casglu adborth gan aelodau’r cyhoedd a chymudwyr ar y canlynol:

  • Adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio ar wahân sy’n ffurfio cysylltiad rhwng Steynton a Johnston, ar hyd yr A4076. Mae hwn yn brosiect rhannol ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru
  • Mae Cam 1 (llinell solet las) yn cynnwys ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio, gwelliannau cyffordd a throedffordd rhwng cyffordd Neyland Road tua’r gogledd ar hyd yr A4076 i gysylltu â Cham 2. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
  • Mae Cam 2 (llinell soley goch) yn ffurfio llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 gan ddechrau gyferbyn â’r safle bws yn Eglwys San Pedr ac yn cysylltu tua’r gogledd tuag at yr C3024 (mae Hen Heol Bulford tuag at Tiers Cross yn dargyfeirio). Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro. Bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio ar hyd y llwybrau tawel tuag at Tiers Cross a llwybr cyd-ddefnyddio presennol Heol Bulford, nes bod Cam 3 wedi’i gwblhau.
  • Cam 3 (llinell doriad coch) y llwybr hwn yn y dyfodol fydd y rhan sy’n weddill o’r llwybr cyd-ddefnyddio, rhwng Cam 2 a chylchfan Sunnycroft (A4076). Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau gyda chyllid i’r dyfodol.

Pam ydym yn cynnig y newidiadau hyn?

Nid oes llwybr teithio llesol uniongyrchol rhwng Johnston ac Aberdaugleddau, er mai hwn yw un o’r llwybrau cymudo a ddefnyddir fwyaf yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd, ni all trigolion feicio/cerdded yn ddiogel rhwng y ddwy ardal. Y strategaeth ehangach (Cam 1 a Cham 3) yw gosod llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd yr A4076 i gysylltu’r ddwy ardal. Byddai hyn wedyn yn cysylltu â’r rhwydwaith presennol rhwng Johnston a Hwlffordd.

Mae pentref Steynton i’r gogledd o Aberdaugleddau ac mae ganddo dai ar ddwy ochr y ffordd fawr. Mae lle ar gyfer troedffordd newydd ar ddwy ochr y pentref. Mae’r droedffordd ar yr ochr orllewinol yn lletach ar y cyfan, ac mae ganddi ymyl glaswelltog a fyddai’n fwy addas ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. Mae gan yr ochr ddwyreiniol oleddf croes serth, ac mae’n llai addas felly. Mae bylchau yn y droedffordd, ac nid oes llwybr beicio sydd wedi’i wahanu oddi wrth y lôn gerbydau. Byddai gweithredu’r cynllun hwn yn creu llwybrau newydd i lenwi bylchau yn y rhwydwaith teithio llesol.

Nod y cynigion yw:

  • Hwyluso’r teithiau llesol rhwng Aberdaugleddau a Johnston a chynyddu nifer y teithiau
  • Darparu mynediad diogel i ffwrdd o gefnffordd yr A4076
  • Cynyddu gweithgarwch corfforol ac annog ffordd iach o fyw
  • Cefnogi’r ymdrech o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio trwy leihau teithiau mewn cerbydau
  • Rhoi cyfle i’r gymuned leol deithio drwy ddulliau teithio llesol

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan Strategaeth Drafnidiaeth Mae copïau caled ar gael yn Neuadd y Sir.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.

Bydd yr arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) hwn yn cau ar 28ain Mawrth 2025 am hanner nos.

Diolch am roi o’ch amser i gwblhau'r arolwg hwn.

ID: 12213, revised 31/03/2025