Dweud eich dweud
Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Penfro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Tîm Perffaith
- Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
- Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
- Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
- Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Caiff y strategaeth ei dylanwadu gan Asesiad Anghenion y Boblogaeth a gyhoeddwyd gan Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru. Hoffem glywed eich barn am yr argymhellion sydd wedi dod i'r golwg o'r ymgysylltiad.
Argynhellion Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru
Yr Iaith Gymraeg a’r Strategaeth
Darllenwch y dogfennau cyn i chi wneud yr arolwg ar-lein. Byddant yn eich helpu i ateb y cwestiynau.
Eich barn
Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor.
Cwblhewch yr arolwg ar-lein erbyn 5 Gorffennaf 2026.
Os hoffech chi gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at getinvolved@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn ni wneud trefniadau i’w anfon atoch. Fel arall, gallwch argraffu, cwblhau a dychwelyd y ffurflen ymateb i`r ymgynghoriad.
Os gwelwch chi’n dda, cwblhewch yr arolwg erbyn ddydd Sul, 5ed Gorffennaf 2026
Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026–2031, a fydd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn-benderfyniad Cyngor Sir Penfro (15 Medi 2026) ac i’r Cabinet (5 Hydref 2026).
This item is also available in English / Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.