Dweud eich dweud
Strategaeth Cymunedau Oed-gyfeillgar ar gyfer Sir Benfro.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae Cymunedau Oed-gyfeillgar yn ymwneud â sut mae pobl hŷn yn gallu byw bywyd o ansawdd da yn eu cymunedau eu hunain ac o fewn y sir.
Mae’r arolwg hwn ar gyfer pobl 50 oed a hŷn sy’n byw yn Sir Benfro, gan feddwl am, y blynyddoedd sydd i ddod a’n cymunedau, sut allwn ni wneud pethau i gefnogi hyn, sut gall gwasanaethau statudol helpu a sut gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol helpu.
Mae Cymuned Oed-gyfeillgar yn lle sy’n galluogi pobl i heneiddio’n dda a byw bywyd da yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rhywle lle gall pobl aros yn eu cartrefi, cymryd rhan yn y gweithgareddau maen nhw’n eu gwerthfawrogi, a chyfrannu at eu cymunedau, gyhyd â phosibl.
Datblygwyd y dull Cymunedau Oed-gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007, mewn ymgynghoriad â phobl hŷn ledled y byd. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n cefnogi heneiddio iach ac egnïol mewn lle ac yn cefnogi trigolion hŷn i lunio’r lle maen nhw’n byw.
Mae gan fframwaith Cymunedau Oed-gyfeillgar ddwy fodel:
- Yr wyth parth, neu faes, y gall lleoedd fynd i’r afael â nhw i wella eu strwythurau a’u gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl hŷn.
- Cylch rhaglen pedwar cam sy’n tywys cymunedau trwy’r gwelliannau parhaus hyn.
Bydd Cymunedau Oed-gyfeillgar yn Sir Benfro yn defnyddio’r fframwaith fel lens i edrych drwyddi ar ein cymunedau a’r sir. Byddwn yn casglu data, yn meithrin partneriaethau, ac yn ymrwymo i gamau gweithredu o dan y parthau hyn, a fydd yn cael eu cynnwys yn Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cymunedau Oed-gyfeillgar Sir Benfro, a fydd yn cael eu datblygu trwy ystyried eich atebion a’ch sylwadau a thrwy weithio gyda’r sefydliadau partner canlynol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, y sector gwirfoddol ac ati a deddfwriaeth ddilynol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei fonitro gan Fwrdd Strategaeth Cymunedau Oed-gyfeillgar a Fforwm 50+ Sir Benfro a byddant yn cyfrannu ato.
50+ Sir Benfro - Yn agored i unrhyw un dros 50 oed sy’n dymuno rhannu profiadau bywyd a barn pobl hŷn yn eu cymuned â sefydliadau statudol a gwirfoddol. pembrokeshire50plusforum@gmail.com
Eich barn
Mae ystyried eich barn chi yn rhan hanfodol o’n proses adolygu flynyddol.
Cwblhewch yr arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) erbyn 15 Chwefror 2026.
Os hoffech gopi papur: Rachel Gibby, Fforwm Swyddog Cymunedau Oed-gyfeillgar, Cyngor Sir Penfro. ageingwell@pembrokeshire.gov.uk / 01437 775 775