Dweud eich dweud

Strategaeth Ddrafft y Gymraeg 2026-31

23 Mawrth 2026 - Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

Ynghylch yr ymgynghoriad

Fel rhan o Safonau’r Gymraeg, mae angen i’r cyngor gynhyrchu a chyhoeddi cynllun pum mlynedd sy’n nodi sut rydym yn bwriadu hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Benfro. Mae ein strategaeth bresennol ar waith o 2021 i 2026 ac, o fewn y pum mlynedd, mae angen i ni adolygu’r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig.  Bydd y strategaeth pum mlynedd newydd ar waith o 2026 i 2031.  

Mae Strategaeth Ddrafft y Gymraeg 2026-31 yn cynnwys amcanion, targed a chynllun gweithredu y byddwn yn ei roi ar waith i’n helpu i gyflawni ein hamcanion. 

Gallwch hefyd weld Asesiaid Effaith Integredig sy’n cynnwys ein hasesiad o’r effaith y bydd y strategaeth yn ei chael ar y Gymraeg a materion eraill. Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ateb cwestiynau am hyn. 


Eich barn chi

Dyma eich cyfle i ddweud wrthym beth yw eich barn am Strategaeth ddrafft y Gymraeg 2026-31.  Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses y cyngor o wneud penderfyniadau. 

Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein hon.  

Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch neges e-bost i policy@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch.  

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei defnyddio i helpu aelodau i benderfynu beth fydd strategaeth derfynol y Gymraeg ar gyfer 2026-31.  Bydd yr ymatebion yr ydych yn eu rhoi yn cael eu crynhoi mewn adroddiad dienw (h.y. os penderfynwch ddarparu unrhyw fanylion personol, fel eich enw, fel rhan o’ch ymateb, ni fyddwn yn cynnwys y manylion hyn) a’u defnyddio i lywio’r Asesiad Effaith Integredig. Bydd y cabinet yn ystyried y rhain yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.  Bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 22 Mawrth 2026, erbyn 5pm.

Hysbysiad preifatrwydd

ID: 14813, revised 08/05/2026