Dweud eich dweud

Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol Drafft 2025-2030

20 Chwefror 2025

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn ar y 4 blaenoriaeth strategol arfaethedig yn ein Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol ar gyfer 2025-30, a'r mesurau sydd wedi'u hamlinellu i gyflawni'r 4 blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys nifer o newidiadau arfaethedig gan gynnwys gwelliannau i ailgylchu, newidiadau i gasgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau du), a newidiadau i'r dull o ddarparu a chynnal a chadw ein mannau gwyrdd. Mae rhagor o fanylion am y cynigion ar gael yn Strategaetjh Gwasanaethau Amgylcheddol 2025 i 2030
 


Eich barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor. Rydym yn agored i syniadau a allai fod gan gartrefi a busnesau i helpu i gyflawni ein Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol.

Gallwch roi eich barn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein.

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch.  


Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw 19 Chwefror 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Amgylcheddol yn wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) neu dros y ffôn ar 01437 764551.

Diolch am gymryd yr amser i roi eich barn i ni.

Cefndir

Dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi cyflwyno nifer o newidiadau sydd wedi golygu y buom yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru ym maes ailgylchu. Rydym hefyd wedi newid sut rydym yn cynnal yr amgylchedd lleol gyda mwy o fentrau dan arweiniad bioamrywiaeth a thrwy weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol. 

Fodd bynnag, fel y manylir yn y strategaeth, mae achos cryf dros newid gan gynnwys newidiadau deddfwriaeth fel Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig, Cynlluniau Dychwelyd Ernes a Chynlluniau Masnachu Allyriadau. Y cyd-destun ar gyfer hyn yw bod dadansoddiad manwl o wastraff aelwydydd a wnaed yn 2022 wedi canfod y gellid ailgylchu 48% o'r deunyddiau yn y bagiau gweddilliol (du) yn Sir Benfro.

Nod y strategaeth hon yw adolygu'r opsiynau gorau sydd ar gael i Sir Benfro i gyflawni ein dyheadau amgylcheddol o leihau gwastraff ac annog economi gylchol drwy ailgylchu, ailddefnyddio ac atgyweirio. Rydym am newid y ffordd y mae gwastraff a gynhyrchir yn cael ei ystyried yn adnodd i'w ddefnyddio yn hytrach na phroblem, annog aelwydydd, busnesau ac ymwelwyr i leihau gwastraff a gynhyrchir a chynyddu ailgylchu ac ailddefnyddio, gan barhau i symud i fyny'r Hierarchaeth Gwastraff.

Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol

Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ffyrdd o gyflawni'r dyletswyddau statudol a'r cyfleusterau hanfodol sy'n ofynnol gan yr Is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol yng ngoleuni'r hinsawdd ariannol bresennol a newidiadau mewn deddfwriaeth.  Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni pedair blaenoriaeth allweddol a'r hyn y mae pob blaenoriaeth yn anelu at ei gyflawni. 

1. Gwella atal ac ailddefnyddio ein hadnoddau.

  • Lleihau'r gwastraff cyffredinol a gynhyrchir fesul cartref.
  • Gwella opsiynau ailddefnyddio drwy Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn Sir Benfro.

2. Adeiladu ar ein perfformiad ailgylchu yn unol â'r economi gylchol a Sero Net

  • Parhau i gyrraedd ein targedau ailgylchu statudol.
  • Ehangu'r gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd i'w gwneud hi'n haws ailgylchu mwy o ddeunyddiau gartref, cynyddu ailgylchu, a hyrwyddo cylchdroi deunydd.
  • Lleihau gwastraff gweddilliol, drwy adolygiad o amlder a chapasiti casgliadau gweddilliol (gan gynnwys 4 casgliad wythnosol), i gynyddu incwm ailgylchu a lleihau costau gwaredu.

3. Gwella cynaliadwyedd ein strydoedd, traethau a mannau gwyrdd

  • Darparu atebion cynaliadwy a chost-effeithiol i gynnal a gwella ansawdd amgylchedd lleol y parth cyhoeddus a'i chyfleusterau.
  • Gwelliannau mewn gwytnwch ecolegol trwy brosiectau sy'n ymwneud â chadw bioamrywiaeth, gwella ecosystem ac addasu i newid yn yr hinsawdd trwy amddiffyn cynefinoedd.

4. Ymgysylltu a chydymffurfio drwy newid ymddygiad.

  • Darparu rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol
  • Sicrhau bod aelwydydd yn cymryd rhan ac yn ailgylchu eu holl wastraff y gellir ei ailgylchu drwy gefnogi preswylwyr a busnesau sy'n ei chael hi'n anodd ailgylchu a rheoli eu gwastraff.
  • Annog deiliaid tai, busnesau ac ymwelwyr Sir Benfro i ailgylchu gartref, yn y gwaith ac "ar hyd y lle"
  • Atal Troseddau Amgylcheddol ledled Sir Benfro, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a sbwriel.
ID: 12524, revised 18/03/2025