Dweud eich dweud
Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol 2025
18fed Mawrth 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Ynghylch yr ymgynghoriad
Mae adran 10.7 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi ei strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol a chynlluniau rheoli perygl llifogydd. Bydd y strategaeth, a ategir gan gynllun mwy tactegol, yn egluro’r sefyllfa ar hyn o bryd o ran rheoli perygl llifogydd, y sefyllfa yr ydym am fod ynddi yn 2030, a sut y byddwn yn cyrraedd yno.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i nodi gwybodaeth leol am ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef llifogydd, digwyddiadau llifogydd hanesyddol, a gwendidau cymunedau penodol. Yn aml mae gan drigolion a rhanddeiliaid lleol fewnwelediadau unigryw am eu hardal leol a all gyfrannu at ddatblygu strategaeth llifogydd effeithiol. Rydym yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lunio’r polisïau a’r strategaethau rheoli llifogydd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn galluogi’r cyhoedd i ddeall y rhesymeg y tu ôl i fesurau arfaethedig, yr effeithiau posibl, a’r strategaeth gyffredinol. Bydd yn galluogi lledaenu gwybodaeth am fesurau amddiffyn rhag llifogydd, systemau rhybuddio cynnar, cynlluniau ymateb brys, a gweithdrefnau gadael mewn argyfwng. Trwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, mae cymunedau’n dod yn fwy parod ac yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.
Strategaeth leol ar gyfer rheoli pergyl llifogydd
Eich barn
Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses y cyngor o wneud penderfyniadau. Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a gyflwynir i gyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro ym mis Ebrill.
Gallwch roi eich barn ar lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd).
Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch ymholiadau@sir-benfro.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch. Dychwelwch at Angharad Llewelyn yn ymholiadau@sir-benfro.gov.uk neu drwy’r post at Angharad Llewelyn, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP
Cwblhewch yr arolwg erbyn dydd Llun, 17 Mawrth.