Dweud eich dweud

Y cynnig i gau Ysgol Clydau

Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro ymgynghoriad statudol rhwng 5 Tachwedd 2025 a 19 Rhagfyr 2025, gyda chynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr.


Wedi hynny, cafodd yr adroddiad ymgynghori ei ystyried gan y cyngor sir yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2026. Roedd penderfyniad y cyngor fel a ganlyn;


Bod y Cyfarwyddwr Addysg yn cael ei awdurdodi i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr.


Cyhoeddwyd hysbysiad statudol wedi hynny ar 14 Ebrill 2026 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Daeth y cyfnod gwrthwynebu statudol ar gyfer yr hysbysiad i ben ar 11 Mai 2026. Daeth 62 o wrthwynebiadau i law.


Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli cyfrifoldeb y cyngor sir fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gyhoeddi adroddiad gwrthwynebiadau, ac mae’n darparu’r canlynol:

  • crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a ddaeth i law, ac
  • ymateb y cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny

 

Adroddiad Gwrthwynebladau Ysgol Clydau

Atodiad 1

Ysgol Clydau - llythyr penderfyniad - Mehefin 2026

Dogfen Ymgynghori

ID: 14547, revised 15/07/2026