Dweud eich dweud

Ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi Trwyddedu 2026

Mae Polisi Trwyddedu Cyngor Sir Penfro yn cwmpasu lleoedd fel tafarndai a bariau, a’r rhan fwyaf o leoliadau sy’n gwerthu alcohol, yn gweini bwyd poeth yn hwyr yn y nos, neu’n cynnal adloniant fel cerddoriaeth fyw, dawnsio, ffilmiau, neu rai digwyddiadau chwaraeon.

Mae’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ac yn manylu ar y dull a gymerir gan yr awdurdod trwyddedu wrth ystyried ceisiadau newydd o dan y ddeddf a disgwyliadau deiliaid trwyddedau a thystysgrifau presennol o dan y Ddeddf Drwyddedu. Mae’n bryd adolygu’r polisi.

 

Pam rydyn ni’n ymgynghori?

Mae’n ofynnol i’r awdurdod ymgynghori ar ddiwygio Datganiad Polisi Trwyddedu bob pum mlynedd o dan Ddeddf Trwyddedu 2005.

Nod y Datganiad Polisi Trwyddedu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd, amddiffyn plant rhag niwed, atal niwsans cyhoeddus ac atal troseddu ac anhrefn wrth annog diwydiant hamdden ac adloniant cynaliadwy a chanol trefi ac economi nos bywiog.

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trwyddedu gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu sy’n nodi’r amrywiol ffactorau y byddant yn eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ar geisiadau a wneir o dan y ddeddf mewn perthynas â hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

Mae’r cyngor yn cydnabod disgwyliadau trigolion lleol am amgylchedd diogel ac iach i fyw a gweithio ynddo, a’r angen i ddarparu cyfleusterau adloniant, lletygarwch a hamdden diogel a threfnus ledled y sir.

Daeth ein polisi presennol i rym ar 1 Mehefin 2021 ac mae bellach yn destun adolygiad.

Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - Deddf Trwyddedu

 

Ffyrdd o roi eich barn

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch licensing@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 19th Ionawr 2026.

Bydd yr ymatebion yn cael eu crynhoi mewn adroddiad dienw (h.y. os byddwch yn darparu unrhyw fanylion personol fel eich enw fel rhan o’ch ymateb, ni fyddwn yn cynnwys y manylion hyn) a’u defnyddio i lywio Asesiad Effaith Integredig.

 

Canlyniadau disgwyliedig

Byddwn yn dadansoddi’r adborth a’r sylwadau a geir a bydd y pwyllgor trwyddedu yn ystyried hyn ar ddechrau 2026, gyda’r bwriad o’i gyflwyno gerbron y Cabinet?? i wneud penderfyniad yng ngwanwyn 2026

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflenni Microsoft 

 

ID: 14435, revised 12/12/2025