Dweud eich dweud
Ymgynghoriad Blaenoriaethau Gofalwyr Gorllewin Cymru
4 Mawrth 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Strategaeth Gofalwyr nesaf Gorllewin Cymru
Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gweld eu hunain fel gofalwyr di-dâl.
Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog yn rheolaidd nad yw o bosibl yn gallu ymdopi heb ryw fath o help, boed hynny’n siopa negeseuon neu ddarparu cymorth personol mwy dwys, byddech yn cael eich ystyried yn ofalwr di-dâl. Nid yw gofalwyr di-dâl bob amser angen neu eisiau cymorth, ond gall amgylchiadau newid, dros amser neu’n annisgwyl, gan arwain at argyfwng posibl neu ddirywiad mewn iechyd a llesiant.
Dylai gofalwyr di-dâl o bob oedran yng Ngorllewin Cymru fod yn weladwy, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chael eu cefnogi. Dyma’r blaenoriaethau arfaethedig a fydd yn sylfaen Strategaeth Gofalwyr nesaf Gorllewin Cymru, ac maent yn seiliedig ar y sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda gofalwyr a sefydliadau di-dâl sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl, dros y 9 mis diwethaf.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn croesawu eich barn
Rydym yn croesawu eich barn ac os hoffech helpu i lunio’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu ar gyfer Strategaeth Gofalwyr 2025-2030, ewch i'r gwefan: Ymgynghoriad blaenoriaethau gofalwyr gorllewin cymru (yn agor mewn tab newydd)
Cau 3 Mawrth 2025