Dweud eich dweud
Ymgynghoriad Polisi Cludiant Ysgol 2025
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae gan y cyngor gyfrifoldeb statudol i ddarparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cludiant i’r ysgol / coleg ar gyfer dros 4,500 o ddysgwyr cymwys bob dydd, am gost o dros £8 miliwn y flwyddyn.
Gallwch ddarllen y polisi yn llawn a gwirio cymhwysedd cludiant ysgol ar ein gwefan.
Eich Barn
Byddem yn croesawu eich barn ar ein Polisi Cludiant Ysgol fel rhan o adolygiad ehangach o ddarpariaeth cludiant ysgol yn Sir Benfro. Er nad oes gennym unrhyw gynigion penodol ar gyfer newid ar hyn o bryd, bydd eich barn yn ein helpu i lunio darpariaeth yn y dyfodol. Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses y cyngor o wneud penderfyniadau. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn-benderfyniad, ym mis Mehefin cyn i unrhyw newidiadau arfaethedig i’r polisi gael eu cyflwyno i’r cabinet ym mis Medi 2025.
Cwblhewch yr arolwg erbyn dydd Sul, 18 Mai 2025.
Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch school.transport@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch.
Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi a wneir o ganlyniad i’r adolygiad hwn yn berthnasol o fis Medi 2026. Bydd hyn yn sicrhau bod rhieni dysgwyr sy’n dechrau addysg gynradd neu uwchradd yn 2026 yn ymwybodol o’r polisi trafnidiaeth a’r meini prawf cymhwysedd cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer eu dewis ysgol.
Nodwch y bydd angen i unrhyw newidiadau i’r polisi fod yn ddichonadwy ac yn fforddiadwy yng nghyd-destun prinder gyrwyr a’r pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan y cyngor.