Dweud eich dweud

Ymgynghoriad Premiwm y Dreth Gyngor 2025

 

01 Medi 2025

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.  Diolch am gymryd rhan.

 

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Mae Cyngor Sir Penfro am geisio eich barn chi ar bremiwm y dreth gyngor sy’n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Benfro. Mae premiwm treth gyngor yn ychwanegol at dâl safonol y dreth gyngor, sy’n cynnwys praeseptau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed–Powys a’r cynghorau tref a chymuned.

Edrychwch ar yr wybodaeth gefndirol am fanylion, yn cynnwys premiwm y dreth gyngor ar hyn o bryd, cyd-destun Tai Sir Benfro, diffiniadau a deddfwriaeth.  

 

Mae ystyried eich barn chi yn rhan hanfodol o’n proses adolygu flynyddol. Mae’r ymgynghoriad am geisio eich barn chi ar y canlynol:

  • Premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ar gyfer 2026–2027
  • Premiwm y dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor 2026–2027
  • Sut y dylid gwario unrhyw gyllid a godir o’r premiwm yn 2026–2027
  • A ddylai Llywodraeth Cymru newid y nifer gofynnol o ddiwrnodau y mae’n rhaid gosod eiddo cyn iddo fod yn gymwys ar gyfer statws annomestig treth llety hunanarlwyo
  • A ddylai’r cyngor ddefnyddio ei ddisgresiwn i eithrio llety gwyliau sy’n trosglwyddo o drefn ardrethi annomestig i’r dreth gyngor rhag talu unrhyw bremiwm.

 

Eich Barn

Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 neu e-bostiwch revenue.services@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw Dydd Sul, 31 Awst 2025.

 

Bydd yr ymatebion yn cael eu crynhoi mewn adroddiad dienw (h.y. os byddwch yn darparu unrhyw fanylion personol fel eich enw fel rhan o’ch ymateb, ni fyddwn yn cynnwys y manylion hyn) a’u defnyddio i lywio Asesiad Effaith Integredig. Bydd y Cabinet yn ystyried y rhain yn ei gyfarfod ar 6 Hydref 2025. Bydd penderfyniad terfynol ar yr opsiynau, gan gynnwys defnyddio unrhyw gyllid a godir gan y premiymau, yn cael ei wneud gan y cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 9 Hydref 2025. Daw’r penderfyniad hwn i rym ar 1 Ebrill 2026.

 

Trefniadau premiwm y dreth gyngor cyfredol

Cefndir

Mae dwy sefyllfa lle gall y cyngor benderfynu codi premiwm treth gyngor o 0% (h.y. dim premiwm) hyd at 300%.  Maent yn ymwneud ag ail gartrefi ac ag eiddo gwag hirdymor. Rhaid i’r cyngor ystyried y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar bremiymau’r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi (yn agor mewn tab newydd) wrth wneud penderfyniad ar hyn.  Mae angen gwneud penderfyniad bob blwyddyn ynghylch pa bremiwm, os o gwbl, i’w godi.

 

Diben y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i’r cyngor godi’r premiymau hyn yw’r canlynol: 

  • dod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy
  • cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am bremiymau’r dreth gyngor ar ei gwefan StatsCymru, ac mae hon yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y cyfraddau y mae pob cyngor yn eu codi.

Yr hydref hwn, bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad ynghylch beth fydd lefel unrhyw bremiymau a godir ym mlwyddyn ariannol 2026/27.  Ar yr un pryd, bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad dros dro ynghylch sut y dylid gwario’r arian a godir o’r premiymau.  Dim ond penderfyniad dros dro fydd hwnnw oherwydd efallai y bydd angen ei ailystyried pan ddaw’r cyngor i bennu ei gyllideb derfynol a’i gyfraddau treth gyngor ar gyfer 2026/27, yng ngoleuni’r holl amgylchiadau ariannol cyfredol.  Fel arfer, mae’r gyllideb yn cael ei gosod ym mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth bob blwyddyn.  Yn yr un modd, gellir ailystyried y penderfyniad ynghylch lefel y premiymau cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y bydd y tâl yn cael ei godi ynddi os oes angen.

Fodd bynnag, bydd y cyngor fel arfer yn glynu wrth ei benderfyniad gwreiddiol ynghylch lefel y premiwm oni bai fod rheswm cryf dros newid hynny.  Pwrpas gwneud y penderfyniad hwnnw yn yr hydref bob blwyddyn, cyn y penderfyniad cyllidebol terfynol, yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl yn rhesymol i bobl yr effeithir arnynt gan y premiymau o’r hyn y maent yn debygol o fod (yn arbennig o berthnasol os gall y premiymau gynyddu o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol).  Bydd y cyngor hefyd yn anelu at lynu wrth ei benderfyniad dros dro ynghylch sut y dylid gwario incwm y premiymau, oni bai fod newidiadau yn y sefyllfa gyllidebol o’r hyn a ddisgwyliwyd yn golygu ei bod yn briodol gwneud rhywbeth gwahanol yn y gyllideb derfynol.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ynghylch lefel y premiymau a sut y dylid gwario’r arian a godir, yn ogystal â rhai cwestiynau cysylltiedig eraill a nodwyd ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori hon.

Mewn blynyddoedd ariannol blaenorol, rydym wedi gosod premiymau ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor (gweler yr adran isod) oherwydd bod lefel yr ail gartrefi (a llety gwyliau) mewn llawer o gymunedau arfordirol mor uchel ei bod yn rhwystro gallu pobl leol i fyw ynddynt a bod hynny’n niweidio cymeriad a chynaliadwyedd y cymunedau hyn.  Mae eiddo gwag hirdymor yn cael effaith debyg ar gymunedau.  Ein barn ni yw bod y premiymau’n helpu i atal pobl rhag prynu eiddo i’w defnyddio fel ail gartrefi ac yn annog perchnogion eiddo gwag i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd neu eu gwerthu. Defnyddir y refeniw a godir i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i helpu i liniaru effeithiau andwyol ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar gymunedau lleol, gan eu gwneud yn fwy cynaliadwy. Mae rhai ymatebion i’n hymgynghoriadau blaenorol (sydd wedi cael eu hadrodd i’r cyngor) wedi gwneud y pwyntiau hyn.

 

Ail gartrefi

Wrth ail gartref, rydym yn golygu eiddo sy’n destun y dreth gyngor nad yw’n unig neu brif breswylfa rhywun ychwaith ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol. Mae’r holl ffigurau’n ymwneud â Sir Benfro.

 

  • Ar 4 Mehefin 2025, roedd 4,328 o ail gartrefi.  Nid yw’r rhain yn cynnwys y 2,003 o eiddo hunanarlwyo sydd wedi’u dosbarthu o fewn ardrethi annomestig yn hytrach na’r dreth gyngor. Gweler llety gwyliau isod.
  • Nid oes rhaid i rai ail gartrefi dalu’r premiwm os ydynt yn gymwys ar gyfer eithriad. Ar 4 Mehefin 2025, roedd 825 (neu 19%) o ail gartrefi wedi’u heithrio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ar y premiymau ar ail gartrefi
  • Ar 4 Mehefin 2025, roedd 3,503 o ail gartrefi yn destun premiwm y dreth gyngor.
  • Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon (1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026), mae cyfradd premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi yn Sir Benfro yn 150%. Mae’r tâl hwn o 150% yn ychwanegol at gyfradd safonol y dreth gyngor, sy’n cynnwys praeseptau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed–Powys a chynghorau tref a chymuned.
  • Mae pob cyngor yng Nghymru ac eithrio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn codi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi gyda’r mwyafrif ar hyn o bryd yn codi premiwm o 100% neu’n agos at hyn.
  • Mae rhai ail gartrefi hefyd yn cael eu gosod fel llety gwyliau (yn aml ar wefannau archebu fel Airbnb).  Os yw eiddo ar gael i’w osod am fwy na 252 diwrnod, ac yn cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, gall perchennog wneud cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio i drosglwyddo i ardrethi annomestig.
  • Gall perchnogion ail gartrefi fod yn atebol i dalu mathau eraill o drethi nad oes rhaid i berchnogion eiddo sy’n unig breswylydd neu’n brif breswylydd eu talu fel arfer.  Mae’r rhain yn cynnwys treth trafodiadau tir ar gyfradd uwch (wrth brynu) a threth enillion cyfalaf (wrth werthu).

 

Eiddo gwg hirdymor

Diffinnir “annedd wag hirdymor” fel annedd nad yw’n cael ei meddiannu ac sydd heb fawr o ddodrefn am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf yn Neddf Tai Cymru 2014. Mae’r holl ffigurau’n ymwneud â Sir Benfro.

 

  • Gall eiddo gwag fod wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor.  Mae enghreifftiau’n cynnwys eiddo sydd wedi bod yn wag am lai na chwe mis, sy’n cael ei atgyweirio, pan fo’r perchennog yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl, neu pa fo’r perchennog wedi marw ac nid yw’r profiant wedi’i roi eto.  Bydd eiddo heb ei feddiannu a heb ddodrefn yn destun ffi o 100% i ddechrau ar ôl i unrhyw eithriad ddod i ben.  
  • Ar 4 Mehefin 2025, roedd 1,442 o eiddo gwag oedd wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor. 
  • Os yw eiddo (nad yw wedi’i eithrio rhag y dreth gyngor) wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf, yna gall cyngor benderfynu codi premiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag.  Ar 4 Mehefin 2025, roedd 459 o gartrefi wedi bod yn wag am gyfnod o fwy na chwe mis ond llai na blwyddyn.  Roedd 322 eiddo arall yn wag am gyfnod o rhwng blwyddyn a dwy flynedd.
  • Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon (1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026), premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor a godir gan Gyngor Sir Penfro yw 300% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd neu ragor.
  • Ar 4 Mehefin 2025, roedd 505 o eiddo gwag hirdymor yn talu’r premiwm. 
  • Mae pob cyngor yng Nghymru (ac eithrio Torfaen) yn codi premiwm y dreth cyngor ar eiddo gwag hirdymor.  Mae’r mwyafrif o’r cynghorau’n codi cyfraddau ar sail raddedig sydd fel arfer yn dechrau ar 100%. Po hiraf y mae eiddo wedi bod yn wag, yr uchaf yw’r ffi.

 

Mae yna lawer o resymau pam y gallai eiddo fod yn wag ac mae yna esemptiadau ac eithriadau rhag talu’r dreth gyngor yn ogystal ag unrhyw bremiwm.  Ym mis Mehefin 2025, nid yw 63% o eiddo gwag y gellir codi ffi arnynt yn talu premiwm.

Efallai hefyd fod rhesymau dilys pam mae rhai eiddo’n aros yn wag am gyfnod hirach na’r terfyn amser a ganiateir cyn cymhwyso premiwm iddynt. Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, gall y cyngor roi gostyngiad yn ôl disgresiwn.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â’r Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 neu revenue.services@pembrokeshire.gov.uk

  

Llety hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig

Rydym yn ystyried llety hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig yn eiddo sydd wedi cyrraedd y trothwyon y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn eu defnyddio i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi annomestig (yn hytrach na’r dreth gyngor). Llywodraeth Cymru a benderfynodd y trothwy gwirioneddol a ddefnyddir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wneud y gwahaniaeth hwn. 

Ar 4 Mehefin 2025, roedd 2,003 o unedau llety hunanddarpar yn destun ardrethi annomestig.  Mae’r nifer wedi gostwng o 2,648 ym mis Ebrill 2023. Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi adolygu cymhwysedd eiddo hunanddarpar Sir Benfro ar gyfer ardrethi annomestig ac, o ganlyniad, mae nifer yr eiddo hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig wedi gostwng 160 arall ym mis Mehefin 2025 ac mae gostyngiadau pellach yn bosibl.  Yn yr un modd, gall y niferoedd godi oherwydd apeliadau llwyddiannus yn erbyn penderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Newidiodd Llywodraeth Cymru y trothwyon i eiddo sydd dan feddiannaeth am o leiaf 182 diwrnod (o eiddo sydd dan feddiannaeth am o leiaf 70 diwrnod) ac i eiddo sydd wedi’i hysbysebu am o leiaf 252 diwrnod (o eiddo sydd wedi’i hysbysebu am o leiaf 140 diwrnod) ym mis Ebrill 2023.  Rydym yn gofyn am farn ymatebwyr ynghylch a ydynt yn credu bod y trothwy gosod o 182 diwrnod yn briodol.

Mae eithriad rhag premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi ar gyfer eiddo na ellir eu defnyddio fel preswylfa barhaol (weithiau mae’r rhain yn ofynion caniatâd cynllunio gwreiddiol yr eiddo). 

Mae gan y cyngor y pŵer i ganiatáu gostyngiad dewisol ar bremiwm y dreth gyngor ar gyfer llety hunanddarpar sy’n trosglwyddo o ardrethi annomestig i’r dreth gyngor.  Ni all y cyngor newid y trothwyon nac atal eiddo a oedd yn atebol am ardrethi annomestig rhag trosglwyddo i’r dreth gyngor os nad yw bellach yn bodloni’r trothwy o ran y lleiafswm o ddyddiau y gosodir yr eiddo mewn cyfnod o flwyddyn. Rydym yn gofyn am farn ymatebwyr ynghylch a ddylai’r cyngor arfer y disgresiwn hwn.

Efallai y bydd llety hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig ac sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 fod yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a gall y rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 fod yn gymwys i gael rhyddhad o 100%.

 

Lefelau Hanesyddol Premiymau’r Dreth Gyngor

 

Mae’r tabl canlynol yn dangos lefel premiymau’r dreth gyngor a osodwyd gan y cyngor.

 Premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi

Blwyddyn ariannol
2020-21
2021-22
2022-23
2023-24
2024-25
2025-26

Y gyfradd a godwyd

50%

50%

100%

100%

200%

150%

Y gyfradd uchaf a ganiatawyd

100%

100%

100%

300%

300%

300% 

Y ffordd orau o farnu effaith y premiwm yw drwy ganran yr ail gartrefi (gan gynnwys y rhai sy’n derbyn esemptiad rhag y premiwm) ynghyd â nifer yr eiddo llety hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig.  Mae hyn oherwydd trosglwyddo eiddo rhwng y ddau fath o drethi hyn, fel y trafodwyd uchod.

Mae dadansoddiad yn dangos, gan ddefnyddio 2021 fel blwyddyn sylfaen, fod nifer yr ail gartrefi ynghyd â’r eiddo hunanddarpar sy’n destun ardrethi annomestig wedi cynyddu yn y rhan fwyaf o 77 ardal cyngor tref a chymuned Sir Benfro yn 2022 (49) a 2023 (34).  Mewn cyferbyniad, gostyngodd y nifer yn 2024 (43) a 2025 (49), pan godwyd cyfraddau uwch o 200% a 150% ar bremiwm y treth gyngor ar ail gartrefi.  Er nad yw’n bosibl priodoli’r holl newid hwn i effaith y premiwm ar ail gartrefi (roedd newidiadau hefyd yn y farchnad dai ehangach), gwyddom o sylwadau a wnaed yn yr ymgynghoriadau perthnasol ar bremiymau’r dreth gyngor fod lefelau uwch o bremiymau yn debygol o fod wedi chwarae rhan.

 

Premiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor

Mae’r tabl canlynol yn rhestru lefel y premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor.  Defnyddiwyd mecanwaith graddedig hyd at 2024/25.  Bydd newidiadau yn y ffordd y mae’r dull graddedig hwn yn gweithio a pha mor gyflym y daw i rym yn newid nifer yr eiddo sy’n destun y premiwm.

 

Blwyddyn ariannol / Cyfnod yn wag

2020-21

2021-22

2022-23

2023-24

2024-25

2025-26

1–2 flynedd

0%

0%

0%

0%

0%

0%

2–3 blynedd

0%

0%

0%

0%

100%

300%

3–4 mlynedd

25%

25%

25%

25%

200%

300%

4–5 mlynedd

50%

50%

50%

50%

300%

300%

5 mlynedd neu fwy

100%

100%

100%

100%

300%

300%

Y gyfradd uchaf a ganiatawyd

100%

100%

100%

300%

300%

300% 

Gostyngodd nifer yr eiddo gwag hirdymor sy’n destun y premiwm 147 yn 2024/25, o 684 i 537. 

 

Defnyddio premiymau’r dreth gyngor

Disgwylir i awdurdodau adrodd ar weithredu’r premiymau a’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir. Yn ogystal â gwybodaeth y mae’n ofynnol i awdurdodau ei hadrodd i Lywodraeth Cymru, fe’u hanogir i gyhoeddi ar eu gwefannau amrywiaeth o fanylion sy’n ymwneud â’r incwm a gynhyrchwyd, gan gynnwys sut y defnyddiwyd yr incwm ychwanegol a godwyd i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, neu i fynd i’r afael â materion tai lleol neu gymunedau cynaliadwy eraill.

Mae’n amlwg o’r canllawiau statudol bod y cyngor yn cael ei annog i ddefnyddio premiymau’r dreth gyngor i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol ac ymdrin â phroblemau lleol eraill yn ymwneud â thai a chymunedau cynaliadwy, gan gynnwys sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, mae hefyd yn glir o’r canllawiau statudol y gall y cyngor ddefnyddio’r refeniw ychwanegol o bremiymau’r dreth gyngor at unrhyw ddiben, a bod bwriadau’r polisi cyffredinol yn cynnwys gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol neu fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Oherwydd effaith andwyol eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar y tai fforddiadwy sydd ar gael a chynaliadwyedd cymunedau lleol, mae’r cyngor wedi ceisio taro cydbwysedd, gan sicrhau bod yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r ddau fater. Ers cyflwyno premiymau’r dreth gyngor, mae £10.7 miliwn wedi’i ddyrannu i’r rhaglen tai fforddiadwy, £0.8 miliwn er mwyn sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto, a £7.1 miliwn ar gyfer cynllun Grant Gwella Sir Benfro.  Ar gyfer 2024-25, mae £9.9 miliwn wedi’i ddyrannu i gyllideb y gronfa gyffredinol mewn perthynas ag elfennau o’r gyllideb sy’n ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol, a chynigir y bydd y trefniant hwn yn parhau yn 2025-26.  Mae’r dyraniad i gyllideb y gronfa gyffredinol hefyd yn anelu at fynd i’r afael ag effaith niweidiol eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar nifer y tai sydd ar gael, e.e. digartrefedd, a chynaliadwyedd cymunedau lleol, e.e. lleihau nifer y disgyblion mewn ysgolion, ond mewn ffordd wahanol i’r rhaglen tai fforddiadwy a chynllun grant Gwella Sir Benfro a grybwyllwyd uchod, sydd ill dau yn mynd rhagddynt.

Teimlir bod y dull deuol hwn o ddyrannu incwm o bremiymau’r dreth gyngor yn cael effaith fwy sylweddol ar drigolion Sir Benfro, ac o fudd mwy sylweddol iddynt hefyd, na dull un llwybr wrth fynd i’r afael ag effaith niweidiol eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a chynaliadwyedd cymunedau lleol yn y sir.

 

Dyrannu premiymau’r dreth gyngor ar gyfer 2025-26

Cymeradwyodd y cyngor y canlynol:

1).   Dyrannu’r incwm a gynhyrchir o bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi ar gyfer 2025-26 i 2028-29 fel a ganlyn:

a.     92% i ariannu elfennau o gyllideb y cyngor yn ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

b.     6% i ariannu’r rhaglen tai fforddiadwy

c.     2% i ariannu cynllun grant Gwella Sir Benfro

 

2).    Dyrannu’r incwm a gynhyrchir o bremiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ar gyfer 2025-26 i 2028-29 fel a ganlyn:

a.     100% i ariannu elfennau o gyllideb y cyngor yn ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

b.     0% ar gyfer dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd

 

Mae’r tabl canlynol yn amlinellu elfennau’r gyllideb sy’n ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol ar gyfer 2025-26.

 

Gwasanaeth

2025-26

£'000

Digartrefedd

2,050

Safonau tai

200

Ysgolion

6,027

Y gwasanaeth ieuenctid, timau troseddwyr ieuenctid a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid

900

Cynnal tir y cyhoedd – gan gynnwys traethau, parciau a mannau agored, cyfleusterau cyhoeddus, glanhau strydoedd

1,150

Cyfanswm

10,327

 

 

Dyraniad i’r gronfa arian wrth gefn o bremiymau’r dreth gyngor:

2025-26

£'000

Dyraniad i’r gronfa arian wrth gefn ar gyfer tai fforddiadwy

502

Dyraniad i gronfa Gwella Sir Benfro

167

Dyraniad i’r gronfa arian wrth gefn ar gyfer defnyddio eiddo gwag hirdymor unwaith eto

0  

 

Rhaglen tai fforddiadwy

Mae cyllid ar gyfer y rhaglen tai fforddiadwy wedi’i ddarparu o bremiymau’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar ganrannau amrywiol, ers cyflwyno premiymau’r dreth gyngor.

Rhoddodd y cabinet ystyriaeth i adroddiad ar defnyddio anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol ar gyfer darparu tai fforddiadwy yn Sir Benfro ar 13 Chwefror 2023. Penderfynwyd y dylid cytuno ar ddyrannu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag i leihau pwysau yn y sector gwasanaethau tai, a chynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn y sir trwy amrywiaeth o fentrau rhaglen yr adroddir amdanynt i’r cabinet yn flynyddol. I gynnwys:

 

(a) Cyflymu’r ddarpariaeth o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy drwy gefnogi datblygiadau un contractwr

(b) Datblygu a chefnogi cynllun grant ar gyfer eiddo gwag

(c) Datblygu cynnyrch tai fforddiadwy / rhanberchnogaeth ar gyfer Sir Benfro

(d) Cymorth ar gyfer sefydlu a chyflawni datblygiadau tai dan arweiniad y gymuned

(e) Cyllid i leddfu pwysau ar draws digartrefedd drwy gynyddu nifer y tai a gaffaelir

 

Nodwyd rhagor o fanylion am natur y mentrau hyn, a’r sail resymegol drostynt, yn yr adroddiad.  Maent i gyd yn fesurau sydd wedi’u cynllunio i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, neu a fydd fel arall yn helpu i ddiwallu anghenion tai lleol, ac sydd felly’n gyson â’r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau.

 

Wrth bwrw ymlaen â’r rhain, bu rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r rhaglen tai fforddiadwy.  Mae’r oedi hwn yn cynnwys y canlynol:

 

  • Oedi wrth gael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfacha buddsoddiad Dŵr Cymru i wella’r seilwaith carthffosiaeth.
  • Oedi wrth gael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ddefnyddio incwm y premiwm i adeiladu a phrynu tai a fydd yn dod yn rhan o Gyfrif Refeniw Tai y cyngor. Mae gohebiaeth ddiweddar gan Lywodraeth Cymru wedi nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i swyddogion ddrafftio’r offeryn i ganiatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i drosglwyddo rhai cronfeydd o’r gronfa gyffredinol i’r Cyfrif Refeniw Tai ac ymgynghori â llywodraeth leol ar ei hegwyddorion. Bydd hyn yn rhoi’r opsiwn i awdurdodau lleol ddefnyddio premiymau’r dreth gyngor i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol sy’n eiddo i’r Cyfrif Refeniw Tai, ac sy’n cael eu rheoli ganddo. 

Mae Sir Benfro yn treialu proses ymgeisio gyda Llywodraeth Cymru i alluogi defnyddio elfen o’r cyllid hwn tuag at gyflwyno cytundebau pecyn / datblygiadau parod, yn ogystal â’n datblygiadau ein hunain sydd yn yr arfaeth, er mwyn cyflymu nifer y cartrefi cymdeithasol sydd ar gael yn y sir.

Cymeradwywyd cynnyrch tai fforddiadwy Cymorth Prynu Sir Benfro gan y cabinet ar 17 Mawrth 2025, gyda £3 miliwn cychwynnol wedi’i ddyrannu tuag at y cynllun.

Mae’r arian ar gyfer gwaith y rhaglen tai fforddiadwy wedi’i gadw yn y gronfa arian wrth gefn ar gyfer tai fforddiadwy a’r gronfa arian wrth gefn ar gyfer defnyddio eiddo gwag hirdymor unwaith eto. 

 

Cynllun grant Gwella Sir Benfro

Mae cyllid ar gyfer cynllun grant Gwella Sir Benfro wedi’i ddarparu o bremiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar ganrannau amrywiol.

Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau ledled Sir Benfro i wella cynaliadwyedd cymunedau lleol ac i fynd i’r afael â phroblemau a achosir gan eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Mae’r arian ar gyfer y gwaith hwn wedi’i gadw yng nghronfa arian wrth gefn Gwella Sir Benfro.  Ar gyfer 2025/26, argymhellodd y cyngor y dylid darparu 2% o’r cyllid ar gyfer y cynllun grantiau Gwella Sir Benfro o bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi.

 

Y Gymraeg

Darparwyd gwybodaeth gefndirol am y Gymraeg i gynorthwyo ymatebwyr i ateb y cwestiwn ynghylch effeithiau’r cynigion ar y Gymraeg.

Ar draws Sir Benfro, mae tua 17% o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, ond mae’r ganran sy’n gallu gwneud hynny yn amrywio’n sylweddol o 59% i 6%, gyda chymunedau yng ngogledd-ddwyrain Sir Benfro yn gyson â’r canrannau uchaf.  Ychydig iawn o gydberthynas sydd rhwng canran y bobl sy’n siarad Cymraeg a chanran yr eiddo sy’n ail gartrefi neu’n dai gwyliau yng nghymunedau Sir Benfro.  Mae gan rai cymunedau sydd â lefelau uchel o ail gartrefi / llety gwyliau (fel Trefdraeth) nifer gymharol uchel o siaradwyr Cymraeg hefyd.  Mae gan ardaloedd eraill sydd â lefelau uchel o ail gartrefi / llety gwyliau (fel Dinbych-y-pysgod a Llanusyllt / Saundersfoot) ganrannau cymharol isel o siaradwyr Cymraeg.  Mae hyn yn golygu nad yw effaith gwahanol opsiynau ar gyfer premiwm y dreth gyngor ar y Gymraeg yn amlwg o ddata cyfrifiad na data gweinyddol.

Fel rhan o ymgynghoriad ynghylch premiwm y dreth gyngor yn 2024, mae llawer wedi rhannu eu barn ar yr effaith y gallai’r dreth gyngor ar ail gartrefi ei chael ar y Gymraeg. Defnyddir sylwadau enghreifftiol i ddangos rhai o’r effeithiau negyddol a chadarnhaol.

 

Roedd rhai ymatebwyr o’r farn y byddai codi premiwm ail gartref yn niweidio’r Gymraeg:

  • Bydd lleihau’r farchnad dwristiaeth yng Nghymru yn golygu bod llai o bobl yn dod i gysylltiad â’r iaith.
  • Os bydd yr economi leol yn dioddef oherwydd gostyngiad mewn twristiaeth, mae’n debyg y bydd yn rhaid i bobl symud i ffwrdd i ddod o hyd i waith. Mae arnaf ofn y bydd y newidiadau hyn yn cael yr effaith groes o wanhau’r Gymraeg wrth i genedlaethau iau symud i ffwrdd i weithio.
  • Rydyn ni’n siarad Cymraeg, rydyn ni o Gymru. Rydyn ni’n mynychu’r eglwys leol. Rydych chi wedi gwneud i ni deimlo fel nad oes croeso inni ac wedi ysgogi naratif negyddol yn erbyn perchnogion ail gartrefi trwy roi’r dull cyffredinol hwn ar waith.

 

Roedd ymatebwyr eraill o’r farn y byddai codi premiwm ail gartref yn hyrwyddo neu’n amddiffyn y Gymraeg.

  • Drwy wneud ail gartrefi yn llai poblogaidd, y gobaith yw y bydd prisiau tai yn gostwng i lefel a fyddai’n caniatáu i bobl leol allu fforddio tŷ, magu teulu, ac anfon plant i ysgolion lleol lle byddant yn dysgu a siarad Cymraeg.
  • Os gall polisïau o’r fath gynyddu cyfleoedd i bobl aros mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yna gallai fod effaith fuddiol.  Ond mae’n debygol o fod yn anuniongyrchol ac yn anodd rheoli pwy sy’n byw ble.
  • Er mwyn gwella hyfywedd cymunedau Cymraeg eu hiaith, mae’n ddefnyddiol lleihau nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, fel y gall trigolion parhaol feddiannu’r rhain.

 

Cyd-destun tai Sir Benfro

Ym mis Rhagfyr 2023, mabwysiadodd y cyngor strategaeth dai a oedd yn canolbwyntio ar bum blaenoriaeth, a’r cyntaf ohonynt yw cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.  Rhoddodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau’r cyngor ystyriaeth i adroddiad ar gynnydd y strategaeth yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2025.

Ar hyn o bryd, mae prinder dybryd o dai fforddiadwy yn Sir Benfro, sy’n achosi cynnydd mewn digartrefedd.  Er bod nifer y bobl ddigartref yr oedd y tîm cyngor ar dai yn gweithio gyda nhw wedi gostwng o’i uchafbwynt o 682 ym mis Gorffennaf 2023 i 317 ym mis Mawrth 2025, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith nifer y bobl yr oedd y tîm digartrefedd yn gweithio gyda nhw ym mis Mai 2021.  Ym mis Mawrth 2025, roedd gan y cyngor ddyletswydd i sicrhau llety i 150 o aelwydydd, ac er bod 33 o bobl wedi cael eu symud i lety hirdymor addas y mis hwnnw, roedd angen inni hefyd asesu 76 o geisiadau newydd am gymorth digartrefedd.  Cysgu ar y stryd yw’r ffurf fwyaf eithafol o ddigartrefedd ac, ym mis Mawrth 2025, cofnodwyd bod 21 o bobl yn cysgu ar y stryd.  Mewn cymhariaeth, dim ond dau unigolyn oedd yno ym mis Mawrth 2023.

Mae cyflenwad tai newydd yn effeithio ar fforddiadwyedd.  O fewn ardal gynllunio Cyngor Sir Penfro, adeiladwyd 283 o gartrefi newydd yn 2023-24, sydd ymhell islaw cyfartaleddau o ran nifer y tai a gwblhawyd cyn COVID-19.  O fewn y Parc Cenedlaethol, roedd 52 o anheddau wedi’u cwblhau, sydd o fewn targed Cynllun Datblygu Lleol y parc.  Gan edrych yn fwy penodol ar dai fforddiadwy, yn 2023-24 cwblhawyd 120 o dai fforddiadwy newydd yn ardal gynllunio’r cyngor, gyda 27 arall o fewn y Parc Cenedlaethol.

Er bod cyfanswm stoc tai cymdeithasol y cyngor, a’r tri landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu cofrestr tai ar y cyd yn Sir Benfro, wedi cynyddu 4.4% ers COVID-19, nid yw’n cadw i fyny â’r galw.  Ym mis Mawrth 2025, roedd 1,320 o bobl yn llai yn y band blaenoriaeth uchaf, sef y band Aur, nag yn y blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, i roi cyd-destun, ar gyfartaledd dim ond deg tenantiaeth newydd o’r gofrestr gyffredinol a ddechreuodd bob mis yn 2024-25.

Mae prisiau tai yn Sir Benfro wedi newid ychydig iawn dros 2024-25 yn seiliedig ar ddata’r gofrestrfa tir ar y prisiau a dalwyd am dai. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, y pris cyfartalog ar gyfer pob math o dŷ oedd £240,000.  Ym mis Medi 2024, roedd y gymhareb pris tai / incwm yn Sir Benfro yn 6.7 i 1.  Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan o 5.9 i 1, ond yn is na chyfartaledd Lloegr o 7.7 i 1.  Mae prisiau tai mewn llawer o ardaloedd arfordirol yn llawer uwch na chyfartaledd Sir Benfro.

Mae nifer o ardaloedd cyngor cymuned yn Sir Benfro lle mae dros 30% o’r eiddo yn ail gartrefi neu’n llety gwyliau. Mae’r rhain wedi’u crynhoi fel arfer o fewn yr ardal a gwmpesir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

ID: 13672, revised 30/10/2025