Dweud eich dweud

Cynnig ar gyfer Diddymu Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran a Sefydlu'r un Ysgol fel Ysgol Gymunedol 3-11

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd statudol i sicrhau digon o leoedd ysgol addas yn ei ardal ac i benderfynu a ydyw’n gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r cyfleusterau i ddarparu’r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.


Yn ei gyfarfod ar 8 Mai 2025, bu Cyngor Sir Penfro yn ystyried adroddiad gan y Gweithgor Moderneiddio Ysgolion a oedd yn amlinellu canfyddiadau adolygiad o ddarpariaeth addysg yn ardal y Preseli. Yn benodol, bu’r adolygiad yn ystyried faint o leoedd gwag sydd mewn ysgolion yn yr ardal, o ystyried y gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion.


Amlinellodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag Ysgol Wirfoddol a Reolir Cilgerran, a thynnodd sylw at ei statws fel ysgol ‘wledig’, yng nghyd-destun y ‘rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig’ o fewn Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad y cyngor ar 8 Mai oedd:

Bod y Cyfarwyddwr Addysg yn cael ei awdurdodi i gychwyn ymgynghoriad statudol ag Esgobaeth Tyddewi ar y cynnig i ddiddymu Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran a’i sefydlu fel ysgol gymunedol 3–11 oed.

 

Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, anfonwyd llythyr at Esgobaeth Tyddewi ar 13 Mai 2025 i ofyn am ei barn ar y cynnig. Ystyriwyd ymateb yr esgobaeth gan y cyngor sir yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf 2025. Roedd penderfyniad y cyngor fel a ganlyn:

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Addysg i gynnal ymgynghoriad cyffredinol ar y cynnig i ddiddymu Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran a’i sefydlu fel ysgol gymunedol 3–11 oed.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad statudol dilynol yn ystod y cyfnod rhwng 16 Rhagfyr 2025 a 30 Ionawr 2026.

Adroddiad Ymgynghori Cilgerran

Atodiad A - Ymatebion i`r ymgynghoriad

Atodiad B - Ymatebion gan y disgyblion

Atodiad C - Ymateb gan Estyn

Atodiad D - Ymateb gan yr Eglwys yng Nghymru

Atodiad E - Ymateb gan Esgobaeth Tyddewi

 

 Hysbysiad Statudol

Hysbysiad Statudol: Ysgol Cilgerran


Os hoffech chi gael copi papur, anfonwch e-bost at EducationConsultations@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 770139 a gallwn wneud trefniadau i anfon hwn atoch.  


ID: 14548, revised 24/06/2026