e-filio

Sut mae cael e-filiau?

 

Cyn i chi allu cael e-Filiau rhaid i chi gofrestru ar ‘Fy Nghyfrif'. Nid yw'n cymryd ond ychydig funudau i gofrestru a dim ond eiliadau i ddewis derbyn e-Filiau.

·       Cam 1: Cofrestru ar Fy Nghyfrif

·       Cam 2: Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, ewch i ‘Fy Ngwasanaethau' a chliciwch ‘e-Filiau'.

·       Cam 3: Rhowch eich Cyfeir-rif Treth y Cyngor a chliciwch Ychwanegu Cyfrif Treth y Cyngor.


Os ydych eisoes wedi gwneud taliad Treth y Cyngor / edrych ar eich mantolen trwy ddefnyddio Fy Nghyfrif, rydym eisoes yn gwybod eich rhif Treth y Cyngor. Felly cliciwch y botwm ‘Ymuno' i dderbyn e-Filiau, ar hafan eich ‘Fy Nghyfrif'.

 

ID: 148, adolygwyd 01/08/2017