Eich bywyd bob dydd

Eich bywyd bob dydd

  1. Asesiadau Gwasanaethau Oedolion
  2. Asesu Anghenion Cymwys
  3. Gallu diwallu’r angen
  4. Pobl gydag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth
  5. Help wrth adael yr ysbyty
  6. Gofal personol
  7. Gwaith tŷ
  8. Garddio
  9. Prydau Bwyd
  10. Clybiau cinio
  11. Grwpiau Cymdogion Da
  12. Cynllun Ymwelydd Cymunedol
  13. Gofalu am anifeiliaid anwes 

 

Asesiadau Gwasanaethau Oedolion

Os nad ydych yn gallu cyflawni tasgau sylfaenol mwyach, fel ymolchi a gwisgo neu fynd i’r tŷ bach, gall y Gwasanaethau Oedolion wneud asesiad. Os byddant yn dod i’r casgliad bod arnoch angen help, byddant yn gweithio gyda chi i gytuno ar eich nodau, yn nodi ac o bosibl yn trefnu gwasanaethau a fydd o fudd i chi. Os ydych chi’n meddwl eich bod angen cymorth, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro am ragor o wybodaeth ar 01437 764551.

Asesu Anghenion Cymwys

Sgwrs yw’r peth cyntaf wrth ddarganfod pa anghenion cymwys sydd gan rywun. Yn ystod y sgwrs hon byddwn yn gofyn beth sydd o bwys i chi. Byddwn yn eich holi ynghylch eich amgylchiadau; canlyniadau personol a rhwystrau i gyflawni’r canlyniadau hynny; unrhyw beryglon i chi neu i bobl eraill; a’ch cryfderau a galluoedd. Byddwn hefyd yn eich holi ynghylch y cymorth a gewch eisoes a byddwn yn dweud ble gallwch gael y cymorth sydd arnoch ei angen.

Mae meini prawf cymhwyster cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, plant a gofalwyr. Mae 4 maen prawf yn ffurfio cymhwyster, sy’n rhaid eu cyrraedd i’r angen fod yn gymwys. Mae tabl meini prawf ar gyfer oedolion, gofalwyr a phlant. Mae cymhwyster diofyn i’r rhai sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

  • Angen sy’n penderfynu cymhwyster yn hytrach na’r unigolyn ac nid yw’n ymwneud â hawl i wasanaeth.
  • Caiff ei ddefnyddio i warantu mynediad at ofal a chymorth i’r rhai na all gyflawni eu canlyniadau personol hebddo.
  • Fe all rhai anghenion gael eu diwallu trwy gynllun gofal a chymorth a rhai trwy fynediad at wasanaethau cymunedol.
  • Gallai gwasanaethau cymunedol gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â grwpiau cymunedol, teulu a chyfeillion.
  • Os na all darparu gofal a chymorth helpu’r unigolion gyflawni eu canlyniadau, nid yw mater cymhwyster yn codi.


Meini Prawf Cymhwyster Oedolion a Gofalwyr Aeddfed 

Maen prawf 1af

Anghenion yn deillio o iechyd corfforol neu feddyliol, oed anabledd, dibyniaeth ar gyffuriau neu sylweddau eraill

2il faen prawf
  • Gallu gofalu amdanynt eu hunain neu ddilyn arferion cartref
  • Gallu cyfathrebu
  • Amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • Cyfranogi mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • Cynnal neu ddatblygu cysylltiadau teuluol neu gysylltiadau personol arwyddocaol eraill
  • Dayblygu a cynnal cysylltiadau cymdeithasol a chyfranogi yn y gymuned
  • Cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn
3ydd maen prawf

O ganyniad, maent yn methu diwallu'r angen hwnnw, naill ai ar eu pennau'u hunain, neu gyda chymorth pobl eraill sydd eisiau helpu, neu gyda chymorth y gymuned

4ydd maen prawf

O ganlyniad, maent yn annhebygol o gyflawni un newu fwy o'u canlyniadau personol oni bai fod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth 

Gallu diwallu’r angen

Ystyrir bod pobl yn methu diwallu angen os yw gwneud hynny:

  • yn achosi poen sylweddol, gwewyr meddwl neu ofid i’r unigolyn;
  • yn peryglu neu’n debygol o beryglu iechyd neu ddiogelwch yr unigolyn neu rywun arall;
  • yn cymryd llawer mwy o amser i’r unigolyn nag y byddai disgwyl fel arfer.

 

Pobl gydag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth

Bydd anghenion pobl sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, fel rhan o asesiad cyfannol. Bydd yr asesiadau hyn yn ystyried hawl i ofal cymdeithasol a’r GIG.

Help wrth adael yr ysbyty

Mae cydweithwyr ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio’n agos gyda sefydliadau’r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel a chyfforddus pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Bydd cynllun ar gyfer eich rhyddhau o’r ysbyty’n cael ei lunio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref. Mae hyn yn golygu na ddylech orfod aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol. 

Gofal personol

Gall sefydliadau sy’n cynnig gofal personol gynnig cymorth â chodi, mynd i’r gwely, gwisgo, dadwisgo, ymolchi, cymryd bath, glendid personol, bwyta, yfed, defnyddio’r tŷ bach, rheoli anymataledd a gofalu am eich dannedd a’ch dannedd dodi. Efallai y gallant helpu â thasgau sy’n gysylltiedig ag iechyd fel ymdrin â briwiau pwyso.

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cynnig gofal personol a/neu ofal nyrsio fod wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Aroglygiaeth Gofal Cymru (AGC) (yn agor mewn tab newydd). Mae AGC yn rheoleiddio ac arolygu darparwyr gofal cymdeithasol ac yn sicrhau eu bod yn cyflawni safonau uchel. Maent hefyd yn cynnig arweiniad ar ganfod a dewis y gwasanaethau gofal priodol. 

Gwaith tŷ

Os oes arnoch angen help i lanhau’r tŷ, mae’r Yellow Pages yn rhestru cwmnïau dan ‘Cleaning Services – Domestic’. Mae angen i chi ofyn am eirda cyn cyflogi glanhawr/ glanhawraig. 

Garddio

Mae ceisio gofalu am eich gardd yn gallu achosi pryder. Am gyngor ar wneud eich gardd yn haws i’w chynnal, cysylltwch â Thrive - Get Gardening (yn agor mewn tab newydd) am syniadau sut i wneud hyn. 

Prydau Bwyd

Gellir cynnig cymorth â phrydau bwyd mewn ffyrdd amrywiol. Mae rhai sefydliadau’n dod â phryd poeth canol dydd i’ch drws, tra gall eraill ddarparu prydau wedi eu rhewi neu brydau oes hir sy’n hawdd i’w cynhesu.

Mae rhai tai bwyta a siopau prydau parod yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae llawer o archfarchnadoedd hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon ar gyfer bwydydd sy’n cael eu prynu ar-lein.

Cysylltwch â PAVS (yn agor mewn tab newydd) am fanylion o unrhyw wasanaethau neu grwpiau yn eich ardal allai fod o help. Ffôn: 01437 769422 
 

Clybiau cinio

Mae Clybiau Cinio yn Sir Benfro’n cael eu trefnu gan gymunedau lleol neu fudiadau gwirfoddol. Mae llawer o glybiau’n cael cymhorthdal gan y Cyngor Sir. Gall unrhyw un sydd wedi cyrraedd oed ymddeol (60 oed a hŷn) fynychu clwb cinio a hyd yn oed os yw eich gŵr/gwraig/cymar dan 60 gall ddod gyda chi. 
 

Grwpiau Cymdogion Da

Mae Cynlluniau Cymdogion Da’n cael eu sefydlu ledled Sir Benfro ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau ar gael i gynnig cymorth ar yr adegau hynny y gall unrhyw un yn y gymuned fod ei angen.

Cynigir cymorth gan aelodau o’r gymuned a gall y tasgau amrywio o newid bwlb golau i ddarllen mesurydd, cynnig liff neu nôl neges o’r siop.

I gael gwybodaeth ar Gynlluniau Cymdogion Da, cysylltwch: 01437 764551. 

Cynllun Ymwelydd Cymunedol

Mae’r Cynllun Ymwelydd Cymunedol yn darparu cefnogaeth cysylltiedig â thai i oedolion bregus i’w galluogi i aros mor annibynnol ag sy’n bosibl. Ar ôl asesu eich angen, bydd Ymwelwyr Cymunedol yn ymweld â chi’n rheolaidd yn y cartref ar adegau yr ydych wedi’u trefnu, gan roi cynlluniau cefnogi yn eu lle. Mae’r math o gefnogaeth y gellir ei darparu yn cynnwys:

  • Cymorth i’ch galluogi i fyw’n annibynnol gartref
  • Cymorth i wneud cais am dŷ a chael cyngor ynglŷn â thai
  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth eiriolaeth
  • Cymorth i lenwi ffurflenni, budd-daliadau, budd-daliadau tai / treth y cyngor
  • Cymorth i sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn 
  • Help i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i sefydlu a chynnal tenantiaeth
  • Cymorth i drefnu bod rhywun yn dod i atgyweirio’r cartref / gwelliannau / cael gafael ar grantiau cyfleusterau i’r anabl  
  • Asesu angen ac atgyfeirio at wasanaethau priodol  

Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth neu i gyflwyno atgyfeiriad, ffoniwch  01437 764551 

Gofalu am anifeiliaid anwes

Os ydych yn cael anhawster i fynd â’ch ci am dro neu i gysylltu â’r gwasanaethau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes, cysylltwch â’ch grŵp ‘Cymdogion Da’ lleol neu’r capel neu’r eglwys leol neu PAVS (yn agor mewn tab newydd) ar 01437 769422 i weld a oes yno rywun a all eich helpu.

Mae SPPOT (yn agor mewn tab newydd) yn fenter gymunedol leol sy’n cynnig gwasanaethau mynd â chi am dro am dâl. 

Os nad ydych yn gallu gofalu am eich anifail anwes mwyach, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Cinnamon (yn agor mewn tab newydd). Gall yr Ymddiriedolaeth ddod o hyd i ofalwyr maeth hirdymor a thymor byr ar gyfer anifeiliaid anwes a fydd yn gadael i’w perchnogion wybod sut maent.

Mae yna hefyd nifer o ganolfannau achub anifeiliaid lleol – cysylltwch â PAVS (yn agor mewn tab newydd) am fanylion. 

 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

 

ID: 2013, adolygwyd 01/11/2023