Eich bywyd bob dydd
Prydau Bwyd
Gellir cynnig cymorth â phrydau bwyd mewn ffyrdd amrywiol. Mae rhai sefydliadau’n dod â phryd poeth canol dydd i’ch drws, tra gall eraill ddarparu prydau wedi eu rhewi neu brydau oes hir sy’n hawdd i’w cynhesu.
Mae rhai tai bwyta a siopau prydau parod yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae llawer o archfarchnadoedd hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon ar gyfer bwydydd sy’n cael eu prynu ar-lein.
Cysylltwch â PAVS am fanylion o unrhyw wasanaethau neu grwpiau yn eich ardal allai fod o help. Ffôn: 01437 769422
ID: 2021, adolygwyd 28/06/2022