Eich bywyd bob dydd
Gallu diwallu’r angen
Ystyrir bod pobl yn methu diwallu angen os yw gwneud hynny:
- yn achosi poen sylweddol, gwewyr meddwl neu ofid i’r unigolyn;
- yn peryglu neu’n debygol o beryglu iechyd neu ddiogelwch yr unigolyn neu rywun arall;
- yn cymryd llawer mwy o amser i’r unigolyn nag y byddai disgwyl fel arfer.
Meini Prawf Cymhwyster Oedolion a Gofalwyr Aeddfed
Maen prawf 1af
Anghenion yn deillio o iechyd corfforol neu feddyliol, oed anabledd, dibyniaeth ar gyffuriau neu sylweddau eraill
2il faen prawf
- Gallu gofalu amdanynt eu hunain neu ddilyn arferion cartref
- Gallu cyfathrebu
- Amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
- Cyfranogi mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
- Cynnal neu ddatblygu cysylltiadau teuluol neu gysylltiadau personol arwyddocaol eraill
- Dayblygu a cynnal cysylltiadau cymdeithasol a chyfranogi yn y gymuned
- Cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn
3ydd maen prawf
O ganyniad, maent yn methu diwallu'r angen hwnnw, naill ai ar eu pennau'u hunain, neu gyda chymorth pobl eraill sydd eisiau helpu, neu gyda chymorth y gymuned
4ydd maen prawf
O ganlyniad, maent yn annhebygol o gyflawni un newu fwy o'u canlyniadau personol oni bai fod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth
ID: 2015, adolygwyd 14/06/2022