Eich Cartref

Celfi, Carpedi a Llenni

Ble allaf fi gael celfi ar gyfer fy nghartref?

Os oes angen celfi arnoch a bod gyda chi ond hyn a hyn o arian i’w wario, yna beth am edrych ar y ‘mân hysbysebion’ yn y papur lleol. Gallwch chi gysylltu â FRAME hefyd.

Beth yw FRAME?

Bydd FRAME (yn agor mewn tab newydd) yn dod i mo’yn nwyddau dieisiau, ailddefnyddiadwy o’r cartref - pethau fel celfi, dillad a hen drugareddau. Gwasanaeth am ddim yw hyn.

Mae nwyddau ailddefnyddiadwy ar gael i’r cyhoedd yn ystafelloedd arddangos FRAME, sydd yn Johnston a Doc Penfro. Byddant yn gofyn ichi roi rhodd ariannol am hyn. Bydd nwyddau yn cael eu gwerthu am brisiau disgownt i bobl sy’n derbyn budd-dal/pensiwn y Wladwriaeth, os gallant brofi eu bod yn cael budd-dal.

Os yw pobl yn dioddef caledi neu argyfwng difrifol, gall FRAME ddarparu celfi angenrheidiol a nwyddau’r cartref yn rhad ac am ddim. Bydd atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cael eu derbyn mewn ysgrifen gan weithwyr cymdeithasol, Sir Benfro yn Gweithredu dros y Digartref (PATH), gweithwyr cefnogi cymunedol, llochesi ac asiantaethau cydnabyddedig eraill. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar yr amod hwn; bod y nwyddau ar gael a bod asesiad angen wedi cael ei gynnal gan un o’r grwpiau neu’r unigolion y soniwyd amdanynt eisoes.  

Elusen Gofrestredig rhif 1090949, Cwmni Cyfyngedig trwy Warant rhif 4037005, rhif TAW 851167137

Allaf fi gael cymorth gyda bwyd a nwyddau sylfaenol i’r cartref?

Os cawsoch chi eich cartrefu yn berson digartref gallwch chi gysylltu â Sir Benfro yn Gweithredu dros y Digartref (PATH) (yn agor mewn tab newydd) ar 01437 775335. Efallai y gallant eich helpu trwy roi blwch o fwydydd sylfaenol i chi er mwyn ichi allu cychwyn arni.  Ar ben hynny gallwch gysylltu â Byddin yr Iachawdwriaeth ar 01834 843329 neu wneud cais am Grant y Gronfa Gymdeithasol ar 01437 823000.

Manylion cysylltu:

FRAME Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) 

Old Hakin Road

Pont Fadlen

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1XF

Ffôn: 01437 779442

Oriau Agor:
09.00am - 5.00pm Dydd Llun i Gwener
10.00am - 1.00pm Dydd Sadwrn

Sir Benfro yn Gweithredu dros y Digartref (PATH) (yn agor mewn tab newydd)

1 Corner House

Barn Street

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1QA

Ffôn: 01437 765335
Rhadffon 0800-783-5001


 

ID: 1691, adolygwyd 03/10/2023